The Gold Cape (Y Clogyn Aur), Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug

button-theme-prehistoric-more Enwir y dafarn hon ar ôl un o'r arteffactau mwyaf rhyfeddol i oroesi o Brydain yr Oes Efydd (tua 4000 CC i 1000 CC). Mae clogyn Yr Wyddgrug yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain - mae'r llun isod yn ei ddangos yno. Gallwch weld copi ohono yn amgueddfa'r Wyddgrug, dafliad carreg i ffwrdd o'r dafarn yn Ffordd Earl (pin gwyrdd ar ein map isod).

Darganfyddodd chwarelwyr y clogyn tameidiog ym 1833, wrth gloddio carreg o fynydd claddu hynafol a elwir Bryn yr Ellyllon. Mae hyn wrth ymyl yr A541 Ffordd Caer (pin melyn ar ein map).

Cofnododd ficer yr Wyddgrug yr hyn a ganfuwyd yn y bedd wedi'i leinio â cherrig yn y twmpath claddu. Roedd darnau o aur, ac esgyrn y sawl oedd yn gwisgo'r clogyn. Roedd stribedi efydd a gleiniau ambr hefyd.

Photo of the Mold gold cape at the British MuseumCadwodd y darganfyddwyr y darnau aur. Cadwodd y tirfeddiannwr lleol y rhan fwyaf ohonynt a'u gwerthu yn 1836 i'r Amgueddfa Brydeinig, a lwyddodd yr amgueddfa i gael y darnau eraill yn ddiweddarach.

Rydym bellach yn gwybod bod y clogyn wedi'i wneud trwy forthwylio un ingot aur i mewn i ddalen a oedd wedyn wedi'i haddurno â phatrymau asennau a hybiau. Mae'n debyg bod ganddo leinin lledr, ac roedd y stribedi efydd yn darparu atgyfnerthu pellach. Byddai'r gwrthrych wedi bod yn rhy drwm at ddefnydd arferol ac mae'n debyg ei fod yn symbol seremonïol o awdurdod.

Nid tan i'r darnau gael eu hailymgynnull yn y 1960au y gellid gwerthfawrogi ffurf y clogyn. Gwnaed darn newydd i lenwi'r bwlch mwyaf, ar waelod y blaen. Datgelodd darnau dros ben fod gwrthrych aur llai, gyda addurn cyfatebol, hefyd wedi'i gosod yn y bedd.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: CH7 1ES    Gweld Map Lleoliad

Mwy o wybodaeth a lluniau o'r fantell ar wefan yr Amgueddfa Brydeinig

Website of The Gold Cape pub