Y Tŵr Crogi, Caernarfon

slate-plaque
button-theme-crime

Gelwir tŵr wal ganoloesol y dref i'r gogledd o'r Anglesey Arms yn “Dŵr Crogi”, oherwydd dienyddiwyd carcharorion yno. Mae'r tŵr ochr yn ochr â'r hen garchar.

Cyn y 19eg ganrif byddai carcharorion yn cael eu crogi o flaen y cyhoedd yn Y Morfa.

Photo of murderer William Murphy

Yn 1853 dienyddiwyd John Roberts yn yr hen dŵr am lofruddio llanc o'r enw Jesse Roberts ar fynydd ger Conwy. Honnodd John Roberts mewn cyfaddefiad i Williams Evans dalu 23 swllt iddo i saethu Jesse. Cafodd Evans ei holi am sawl awr cyn i’r ynadon benderfynu bod y stori yn ffugiad arall eto gan Roberts.

Y nesaf i farw yn y tŵr oedd yr hawker o Amlwch Thomas Jones, 35 oed. Roedd wedi gadael ei wraig am ei feistres, Mary Bruton. Cymerodd y pâr lety yn Llan Ffestiniog ar 1 Mawrth 1898 ac aethant allan gyda'i gilydd y noson honno. Dychwelodd Jones ar ei ben ei hun, ac fe'i cafwyd yn euog yn ddiweddarach o lofruddio Mary ar fynydd cyfagos.

Portrait of executioner Henry PierrepointY person olaf a ddienyddiwyd yn y Tŵr Crog oedd y llafurwr a'r cyn-filwr William Murphy, 42 (yn y llun uchaf, diolch i Wasanaeth Archifau Gwynedd). Roedd wedi lladd ei feistres, Gwen Ellen Jones, yng Nghaergybi ddydd Nadolig 1909. Gallwch ddarllen ei stori ar ein tudalen am gartref ei theulu ym Methesda.

Cafodd Murphy ei grogi ym mis Chwefror 1910 gan Henry Albert Pierrepoint (llun isaf), a oedd wedi dod yn brif grogwr ym 1901 ar ôl cynnig ei wasanaethau i'r Swyddfa Gartref. Talwyd £10 iddo (tua £1,200 yn arian heddiw) am ddienyddio Murphy.

Hefyd talwyd am ei docyn rheilffordd ail ddosbarth i Gaernarfon. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno daeth ei yrfa i ben ar ôl iddo droi i fyny am ddienyddiad yn feddw ac ymladd gyda'i gynorthwyydd. Roedd wedi dienyddio dros 100 o bobl ac wedi dyfeisio strap arbennig ar gyfer  ddienyddio drwgweithredwyr gydag un fraich!

Roedd Thomas, brawd iau Henry Pierrepoint, a'i fab Albert hefyd yn ddienyddwyr. Dienyddiodd Albert Ruth Ellis, a anwyd yn y Rhyl, y ddynes olaf a grogwyd ym Mhrydain.

Honnir bod ysbrydion yn trigo yn y tŵr, sef ysbryd William Murphy neu eraill a grogwyd yno.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, a Richard Jones, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon. Hefyd i Wasanaeth Archifau Gwynedd, y Daily Post a Wikipedia am y lluniau

Cod post: LL55 1SG    Map

Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button