Adeilad y Pierhead
Mae’r Pierhead yn un o drysorau ystad Senedd Cymru – adeilad hanesyddol rhestredig Gradd I o dan ein Big Ben ni yma yng Nghymru.
Ar un adeg, roedd yn ganolbwynt i’r byd masnach Cymreig, ac mae’n adeilad ysblennydd sydd wedi sefyll yn falch am dros gant o flynyddoedd, yn dyst i hanes unigryw ac amrywiol Bae Caerdydd. Fel lle sy’n adlewyrchu ein diwylliant ac yn ganolfan i gynnal trafodaethau a dadleuon byw, bydd y Pierhead yn parhau’n ganolog wrth i ni feithrin Cymru’r dyfodol.
Mae’r Pierhead yn fan cyfarfod unigryw i bobl Cymru ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr, digwyddiadau a chynadleddau. Mae’n lle i fynegi barn a rhoi llais i faterion sydd o bwys i unigolion, cymunedau neu sefydliadau.
Wedi’i godi ym 1897, daeth yr adeilad rhestredig Gradd I hwn yn bencadlys Cwmni Rheilffordd Caerdydd ar ôl i swyddfeydd Cwmni Doc Bute gael eu difrodi mewn tân ym 1892. Y pensaer oedd William Frame (1848-1906), a oedd wedi helpu William Burges i adnewyddu Castell Caerdydd ac i ail-adeiladu Castell Coch.
Bu newidiadau mawr yn nociau Caerdydd dros y ganrif ddiwethaf, ond mae’r Pierhead wedi aros yn nodwedd ganolog yn yr ardal hynod hon. Yn yr ystafelloedd prysur hyn, byddai cyfrifyddion, dyfrddarlunwyr, syrfëwyr a theipyddion yn gweithio ochr yn ochr er mwyn cynnal dociau a oedd gyda’r mwyaf ffyniannus yn y byd.
Mae'r hen luniau'n dangos adeilad y Pierhead c.1905. Mae'r llun isaf (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyf Ridley 1646) hefyd yn dangos y fynedfa i Ddoc Gorllewinol Bute.
Fel cefndir bwletinau newyddion teledu, y Pierhead yw un o dirnodau mwyaf cyfarwydd Cymru. Ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol, mae cyfle bellach i ymwelwyr ddysgu am ei hanes amrywiol, gan weld sut y bu’r adeilad yn dyst i newidiadau anhygoel ym Mae Caerdydd wrth i hen ganolfan ddiwydiannol y wlad droi’n gartref i ddemocratiaeth yng Nghymru.
Cod post: CF10 4PZ Map
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |