Y Royal Oak, y Trallwng

PWMP logoY Royal Oak, y Trallwng

Ail-adeiladwyd y dafarn yn y 1740au, gan gynnwys rhannau o dafarn gynharach. Ymysg ei gwesteion y mae’r Prif Weinidog David Lloyd George a’r Frenhines Elizabeth II.

Roedd y dafarn yn eiddo i ystâd Castell Powys am ganrifoedd tan y 1920au. Mae’n debygol iddi gael ei henwi ar ôl adfer y mynachdai yn 1660. Roedd y “Dderwen Frenhinol” yn symbol o barhad y frenhiniaeth.

Yn yr ystafell fwyta saif rhan o fframwaith Tuduraidd y dafarn gynharach. Datguddiwyd rhagor yn ystod y gwaith adnewyddu yn y 1990au cyn eu gorchuddio drachefn. Caiff y dafarn honno ei henwi yn nyddiaduron Gweinidog y Crynwyr John Kelsall a ymwelodd â’r lle sawl tro rhwng 1724 ac 1733.

Yn 1792 cynhaliodd pwyllgor Camlas Trefaldwyn ei gyfarfod cyntaf yma. Agorodd y gamlas fesul rhan yn ddiweddarach yn y degawd hwnnw.

Dechreuodd gwasanaeth Post Brenhinol ddwywaith yr wythnos o’r Royal Oak i Amwythig yn 1811. Ymysg y coetsis eraill a oedd yn cychwyn neu’n galw yn y Royal Oak yr oedd yr “High Flyer” o Gaer (o 1823 ymlaen) a’r “Royal Oak” o’r Drenewydd i Gaer (o’r 1830au ymlaen).

Ym mis Medi 1918, synnodd y staff pan alwodd David Lloyd George, y Prif Weinidog, i mewn am ginio! Roedd ef a’i dri chyfaill yn teithio i Lundain mewn car o’i gartref yng Nghricieth. Roedd milwyr a oedd yn gwella o’u hanafiadau rhyfel yn ysbyty’r Trallwng yn digwydd bod y tu allan i’r Royal Oak, a threuliasant amser yn sgwrsio ag ef.

Llwyddodd y Preifat Albert Rowlands, cyn farciwr biliards yn y Royal Oak, i ddianc o drwch blewyn ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod haf 1918 pan ffrwydrodd siel wrth ymyl twll lle’r oedd ef a dau o’i gyd-filwyr yn llochesu. Lladdwyd un o’r lleill. Anfonwyd Albert i Norfolk i wella o anaf i’w ysgwydd. Lladdwyd ei frawd Fred mewn brwydr yn 1916, gan adael gwraig a phlentyn.

Cyfarfu tenantiaid ystâd Castell Powys yma ym mis Mawrth 1919 i drafod bwriad Iarll Powys i osod y tyddynnod ar ei ystâd i gyn-filwyr. Roedd y rhyfel wedi dihysbyddu’r gweithwyr fferm.

Ar ddiwedd y 1920au prynwyd y Royal Oak gan Harry Price, a oedd yn berchen ar dafarndai o amgylch Llanfair ym muallt. Arhosodd yn y teulu tan 2004. Bu’r Frenhines Elizabeth a Dug Caeredin yn ciniawa yma yn 2010 ar ôl agor marchnad da byw newydd y Trallwng. Prynodd y Coaching Inn Group y Royal Oak yn 2015.

Gyda diolch i Will Swales

Cod post: SY21 7DG    Map
 

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trowch i’r dde wrth y goleuadau traffig a cherdded ar hyd Stryd yr Eglwys at y grisiau sy’n arwain i fyny at yr eglwys
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button