Y White Hart Inn, Cenarth
Yn sgil ei safle canolog ger pont Cenarth, gallodd y dafarn hon fanteisio ar fasnach dwristaidd lewyrchus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Am ddegawdau lawer câi’r tafarn ei gadw gan y teulu James. Roedd William James yn is-bostfeistr y pentref yn ogystal, ar adeg pan oedd hi’n gyffredin i dafarnwr gael swydd ychwanegol.
Collodd William a’i wraig Rachel eu trydydd mab Thomas, 19 oed, yn 1857 yn dilyn twymyn a barodd am dair wythnos. Parhaodd Rachel i gadw’r White Hart wedi iddi golli William, 70 oed, yn 1876. Hi a’i merch Sarah oedd yn cadw’r dafarn yn 1881.
Ym mis Ebrill 1895 bu cryn gyffro y tu allan i’r dafarn wedi i gwrwgl ddymchwel ar yr afon. Ceir cofnod yn y wasg i Miss James, tafarnwraig y White Hart, anfon cymorth ar unwaith. Ond boddi a wnaeth y gŵr a oedd yn y cwrwgl sef William Williams, ynad o Bontypridd a chanddo fwthyn, Glanawmor, ger Cenarth. Aethai i bysgota yn y cwrwgl. Gallai nofio’n dda ac roedd yn bysgotwr profiadol ac yn gallu trafod cwrwgl.
Ann, chwaer iau Sarah, a gadwai’r White Hart ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd yn gartref yn ogystal i Sarah, 74 oed, a’i chwaer Margaret, 71 oed, postfeistres wedi ymddeol. Baglwyd Ann sawl gwaith gan y deddfau trwyddedu. Yn 1900 cafodd ddirwy o £1 am dorri Deddf Cau ar y Sul. Yn 1910 cafodd ei chosbi am beidio â thalu treth y tlodion sef treth leol i gynorthwyo’r tlodion.
Pan fu farw Ann yn 68 oed yn Chwefror 1917 darfu am gysylltiad hir y teulu â’r White Hart. Cadwyd y tafarn wedi hynny gan Rees Williams, gynt o Ynysybwl ger Pontypridd. Collodd ef ei wraig, Adie, 46 oed, yn fuan wedyn yn sgil salwch.
Ym mis Gorffennaf 1952, dirwywyd David Jones, deiliad y drwydded, ynghyd â’i ferch Elizabeth, 10 swllt am weini alcohol i dri ffermwr ar adeg nad oedd yn cael ei ganiatáu. Roedden nhw wedi archebu brechdanau a diod yn dilyn y gwaith trwm o drochi defaid yn yr afon. Bu rhaid i’r ffermwyr dalu, yn ogystal, ddirwy o 10 swllt yr un.
Un noson yn 1985 bu tân yn y White Hart ond oherwydd gweithredu cyflym gan ddiffoddwyr tân Castellnewydd Emlyn ni wnaed difrod difrifol. Achoswyd y tân gan drawst o’r atig oedd yn estyn i’r simnai.
Yr enw lle: Ystyr Cenarth yw ‘cefnen o dir lle y ceir cen’. Yr elfennau yw cen ‘tyfiant sy’n digwydd ar graig etc.’ a garth ‘cefnen o dir’.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA38 9JL Map