Cyn-gartref arwr rhyfel, Pen Pyra, Bwlch Sychnant


Gwasgwch y triongl i wrando ar y testun. Cliciwch yma am fwy o ddarlleniadau

Roedd Fferm Pen Pyra unwaith yn gartref i Preifat John "Jack" Edwards, a gafodd ei addurno gan lywodraeth Ffrainc am ei ddewrder di-hid yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Photo of Jack EdwardsFe'i ganed ym Mhenmaenbach yn 1884. Ymunodd â'r fyddin ar ôl gadael ysgol a gwasanaethodd gyda'r Royal Welsh Fusiliers yn India. Roedd yn gweithio i'r London & North Western Railway yn Abergele pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel milwr wrth gefn, aeth yn syth i ail-ymuno â’i hen gatrawd yn Wrecsam, ac fe’i ddanfonwyd yn fuan i Ffrainc.

Tra’r oedd y Cynghreiriaid yn encilio ar ôl Brwydr Mons yn Awst 1914, sylweddolodd milwyr ar alwad y gofrestr bod yr Is-gapten Thompson, o Gatrawd Dorset, wedi’i anafu ac yn gorwedd mewn pentref a oedd, erbyn hynny, yn nwylo’r Almaenwyr. Dywedodd Jack Edwards wrth bapur newydd yn 1915 iddo fynd allan i'r nos ac osgoi gwarchodwyr y gelyn i gyrraedd y pentref. Yn y pen draw daeth o hyd i’r Is-gapten Thompson, a oedd wedi’i anafu'n ddrwg. Cariodd Jack y swyddog ifanc ar ei ysgwydd i linellau Prydain.

Bu farw’r Is-gapten y diwrnod nesaf. Dyfarnodd y Llywodraeth Ffrainc y Médaille Militaire i Jack, ac fe gafodd ei enwi mewn cadlythyrau (“Mentioned in Despatches”) yn y DU.

Ym mis Chwefror 1915, cafodd Jack bum diwrnod o wyliau. Fe gyrraeddoedd Conwy yn uniongyrchol o’r ffosydd, â llaid y ffrynt yn dal arno. Roedd yn cario ei git milwrol llawn. Roedd peth o’r pren ar ei reiffl wedi’i losgi i ffwrdd gan wres y gasgen – arwydd o ddwyster y tanio.

Dyna oedd ei gyfnod olaf yng Nghymru. Cafodd ei ladd ym mis Medi 1915, ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Cambrin, yn rhanbarth Pas de Calais. Mae ei enw ar gofeb ryfel Dwygyfylchi.

Ynglŷn ag enw'r fferm:
Ystyr Pen Pyra (a gofnodwyd yn gynharach fel Pen y Pyrau) yw "pen coed gellyg". Pyra yw lluosog Pyr, sef gellygen. Yn ôl pob tebyg, roedd yr ardal yn adnabyddus am ei gellyg gwyllt.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o amgueddfa Home Front, Llandudno, a'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button