Ynys Llanddwyn

button-theme-women

Ynys Llanddwyn

newborough_ynys_llanddwynEnwir yr ynys fechan hon ar ôl Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellid cyrraedd yr ynys yn hawdd ar droed rhwng pob llanw uchel. Roedd Dwynwen yn byw yn ne Powys yn y bumed ganrif. Wedi carwriaeth anhapus, addawodd na fyddai byth yn priodi a symudodd i’r ynys hon i fyw bywyd sanctaidd.

Mae gweddillion eglwys ganoloesol i’w gweld ar yr ynys. Honodd y bardd Dafydd ap Gwilym, yn y 14eg ganrif, iddo weld delw euraidd o Ddwynwen tra’n ymweld â’r eglwys. Gofynodd i’r ddelw i’w helpu i briodi ferch ei freuddwydion – a honno’n ddynes briod. Ers hynny, mae llawer o bobl wedi teithio at yr ynys i erfyn ar y santes i’w helpu mewn materion rhamantus. Dethlir Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr yng Nghymru.

Gwnaed y llun o adfeilion yr eglwys (yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ar gyfer disgrifiad Thomas Pennant o’i deithiau yn y 1770au. Ysgrifennodd fod adfeilion bychain y tŷ prebendal gerllaw – cartref yn y 15fed ganrif i Richard Kyffyn, rheithor Llanddwyn. Yno roedd Richard wedi gweithio, gyda Syr Rhys ap Thomas a phenaethiaid Cymreig eraill, ar gynllun i ddychwelyd Harri Tudur i Brydain o'i alltudiaeth yn Llydaw. Danfonon nhw wybodaeth at Henry “trwy longau pysgota”.

Dywedir fod pysgodyn arbennig yn byw yn ffynnon Santes Dwynwen (ar yr ynys), pysgodyn a all ragweld dyfodol perthnasoedd y sawl sy’n ei wylio. Traddodiad arall ydi fod dŵr aflonydd yn y ffynnon yn argoel o lwc dda ac hapusrwydd mewn cariad.

Mae dau dwr goleudy yn sefyll ym mhen gorllewinol yr ynys. Mae’r mwyaf newydd ohonynt, sy’n edrych yn debyg i un o dyrrau melin gwynt Ynys Môn, yn segur. Gerllaw y mae bythynod a adeiladwyd ar gyfer y peilotau a fyddai’n tywys llongau try ddyfroedd peryglus y Fenai.

Mae creigiau Ynys Llanddwyn yn dyddio o’r cyfnod cyn-Gambriaidd, sef tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r lafa folcanig clustog ar y traeth yn dyst i’r grymoedd pwerus tanforol a ffurfiodd y dirwedd hon, a ddechrueodd ei bywyd daearegol i’r de o Seland Newydd.

Mae Ynys Llanddwyn yn rhan o Warchodfa Natur Cenedlaethol sydd hefyd yn cynnwys Tywyn Niwbwrch, i’r de, a morfa Cefni, i’r gogledd. Rheolir y warchodfa gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button