Gorsaf heddlu Ystradgynlais

PWMP logobutton-theme-crimeGorsaf heddlu Ystradgynlais

Agorwyd yr adeilad hwn ym mis Tachwedd 1915 fel gorsaf heddlu a llys ar y cyd. Roedd y cyfleusterau blaenorol yn rhy fach oherwydd twf ym mhoblogaeth y dref, a arweiniodd at fwy o droseddau’n cael eu cyflawni.

Joseph Moore Gwyn, Arglwydd Raglaw dros dro'r sir a chadeirydd mainc yr ynadon, gynhaliodd y seremoni agor. Roedd Arglwydd Glanwysg, yr Arglwydd Raglaw, yn rheoli ac yn llywodraethu dros filwyr dramor yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyn y daethpwyd â’r troseddwyr cyntaf gerbron y llys, cyflwynwyd pleidlais o gydymdeimlad ag Arglwydd ac Arglwyddes Glanwysg, y bu eu mab, Gerald Bailey, farw ar y Ffrynt Gorllewinol dri mis yn gynharach.

Dechreuodd tribiwnlys milwrol y rhanbarth gwrdd yma ym mis Mawrth 1916. Roedd conscriptiwn, a gyflwynwyd ddau fis yn gynharach, yn cymell ac ysbrydoli’r rhan fwyaf o ddynion rhwng 18 a 41 mlwydd oed i ymuno â’r lluoedd arfog. Cafodd apeliadau - gan unigolion, rhieni neu gyflogwyr - eu clywed ym mhob rhanbarth gan dribiwnlys o ddynion yn cynrychioli’r fyddin a diddordebau eraill.

Cafwyd cwynion nad oedd cynrychiolydd o’r byd ffermio ar dribiwnlys Ystradgynlais, tan i David Price, ffermwr a diacon Capel Sardis, gael ei benodi.

Roedd penderfyniadau’r tribiwnlys yn corddi teimladau cryfion yn y gymuned. Derbyniodd un aelod o’r tribiwnlys lythyr anhysbys yn 1917 yn ei gyhuddo o roi lloches i ddyn rhag mynd i ryfel.

Mewn un gwrandawiad ym mis Gorffennaf 1916, cafodd nifer o ddynion eu heithrio dros dro neu’n barhaol, gan gynnwys 24 o weithwyr tun, gwrthwynebwr cydwybodol, gwneuthurwr esgidiau, rheolwr traffig gwaith glo, is-bostfeistr (rheolwr Swyddfa Bost), myfyriwr gwyddonol a thad i 11 o blant. Roedd Gwilym James, o dribiwnlys Crughywel, yn ail gynrychiolydd milwrol answyddogol. Daeth yn fwy fwy rhwystredig gyda’r natur drugarog hon tan i aelod arall o’r tribiwnlys ddweud wrtho mai dim ond un cynrychiolydd milwrol a ganiatawyd. Gadawodd Mr James wedi hynny, gan ddweud ei fod wedi “cael llond bol ar hyn”.

Cafodd yr orsaf heddlu ei moderneiddio gan Heddlu Dyfed-Powys yn 2010.

Cod post: SA9 1NZ    Map

I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dilynwch Station Road hyd at ganol y dref. Ewch ar hyd yr Heol Drafnidiol a dros yr afon at Dafarndy’r Ynyscedwyn
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button