Derw’r Canoldir, Rhodfa’r Môr, Conwy
Derw’r Canoldir, Rhodfa’r Môr, Conwy
Derw’r Canoldir ydi’r tair coeden sy’n tyfu rhwng y llwybr a glan y foryd. Mae pedwaredd esiampl yn tyfu ar y llethr oducha’r llwybr. Enwau arall ar y math ydi “Holm oak”, neu’r Lladin Quercus ilex – sef derwen celyn. Mae na bigau ar ymylon y dail ifanc tua gwaelod y goeden, tra bo’r dail uwch yn fwy crwn gyda gwead ffeltaidd golau o dan y dail. Yn wahanol i’r mathau cyfarwydd o dderw yng Nhgymru, mae rhisgl derwen y Canoldir yn rhannu i sgwariau bach.
Fe welwch y coed yn y llun ar y dde, sy'n ddyddiedig Awst 1898. Dora oedd enw'r llong hwylio, mae'n debyg.
Yn ne Ewrop mae derw’r Canoldir yn tyfu yn gynhenid. Daethpwyd a’r rhywogaeth i Brydain yn hwyr yn y 16eg ganrif. Mae’n ffynnu yn yr hinsawdd addfwyn a geir ar arfordiroedd Prydain ac yn goddef awyr hallt.
Yn uwch i fyny, tua’r gorllewin, saif tŷ Bodlondeb, a adeiladwyd ar gyfer teulu cyfoethog Wood ym 1877. Roedd ganddynt ddiddordeb mwen coed ac fe blannon nhw lawer o Goed Bodlondeb, sydd bellach yn Warchodfa Natur Lleol o dan reolaeth Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy.
Adeiladodd y teulu hefyd Rodfa’r Môr fel cyfleuster hamdden i’r cyhoedd lleol ac ymwelwyr. Mae Rhodfa’r Môr, rhan o Lwybr Arfordir Cymru, yn cychwyn nid nepell o furiau tref Conwy ac yn arwain hanner y ffordd at Hafan Conwy. Ceir mynedfa uniongyrchol o’r llwybr i Goed Bodlondeb ym mhen ogleddol Rhodfa’r Môr. Os cerddwch tua’r gogledd ar hyd y rhodfa, edrychwch yn ôl i fwynhau’r olygfa ar hyd y lan at gastell a thref Conwy.
Fe welwch yr olygfa, fel yr ymddangosai yn y 18fed ganrif, yn yr hen ddarlun (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Cynhwysodd Thomas Pennant y darlun yn ei lyfrau am ei deithiau yng Nghymru yn y 1770au.