Dolgarrog water pipelines Cymraeg

Pibellau dŵr Dolgarrog, Conway Road, Dolgarrog

Yn 1906 dewisodd yr Aluminium Corporation Ltd pentrefan Porth Llwyd ar gyfer ffatri mwyndoddi alwminiwm. Gwnaed y penderfyniad hwn gan fod glaw trwm yn disgyn yn gyson ar y Carneddau, i'r gorllewin. Gyda chronfeydd dŵr newydd, mi fyddai’n bosibl symud y dŵr trwy bibellau i lawr i waelod y dyffryn i gynhyrchu trydan mewn gorsaf bŵer. Gosodwyd rhannau isaf y bibell ddŵr gwreiddiol ochr yn ochr â'r rheilffordd.

Adeiladodd y cwmni argaeau Eigiau, Coedty a Chowlyd er mwyn cael darpariaeth trydan rhad ar gyfer y ffwrnais. Adeiladwyd y ffatri a dechreuodd gynhyrchu metel ym 1908. Ehangodd y pentrefan a rhoddwyd yr enw newydd Dolgarrog arno. Tawodd y ffatri dros dro ym 1925, pan foddwyd y pentref o ganlyniad i fethiant argae Coedty un noson stormus (cliciwch yma i ddarllen y stori hon). Bu farw 10 oedolyn a chwe phlentyn. Y ffatri alwminiwm oedd prif gyflogwr Dyffryn Conwy am bron i ganrif.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd y ffatri arbenigo mewn alwminiwm ar gyfer awyrennau. Roedd hyn yn waith mor bwysig i’r ymdrech ryfel fel y sefydlwyd uned fyddin i warchod y safle’n barhaol gyda dryllau gwrth-awyren. Bu gostyngiad yn y diwydiant awyrennau yn sgil yr ymosodiadau terfysgol ar Efrog Newydd ar 11 Medi 2001, ac fe gyhoeddodd perchennog y ffatri ei fwriad i gau’r safle. Prynwyd y ffatri gan y rheolwyr a daliodd ati i weithredu am chwe mlynedd arall, ond wedyn aeth y busnes i ddwylo gweinyddwyr. Yn ystod ei blwyddyn olaf, roedd gan y ffatri drosiant o £19m ac roedd yn cyflogi 170 o bobl.

Dymchwelwyd y ffatri ac fe grewyd canolfan syrffio – y cyntaf o’i math yn y byd – ar y safle yn 2014-15. Mae’r dŵr yn dal i lifo i lawr y pibellau i gynhyrchu trydan i'r grid cenedlaethol.

Gyda diolch i John Lawson-Reay

Côd post: LL32 8JU    Map