Gwarchodfa natur Coed Cyrnol, Porthaethwy
Gwarchodfa natur Coed Cyrnol, Porthaethwy
Cerrig y Borth oedd enw gwreiddiol y tir hwn a chyfeiria’r enw naill ai at y cerrig sarn a arweiniai at Ynys Tysilio (neu Church Island) wrth droed y rhiw yn y fan hon, neu’n debycach at y graig sylweddol sy’n edrych dros Y Fenai. Os ydych newydd sganio’r codau QR gerllaw’r maes parcio, sylwch sut mae’r dirwedd yn codi tua’r de.
Safle strategol y tir sy’n awgrymu, hwyrach, pam y cafodd 37 o ddarnau o arian bath o’r 3edd ganrif O.C. eu darganfod yma ynghyd â chrochenwaith a bwyell ryfel a wnaed o garreg a’r rheini’n perthyn i’r Oes Efydd Gynnar.
Yn 1814 crewyd coetir yma gan Iarll Uxbridge (Ardalydd Môn, wedi hynny) ar 41 erw a ddaeth yn eiddo iddo. Ymhen yrhawg daethpwyd i’w alw’n Coed Cyrnol ar ôl ryw Cyrnol Sandys a drigai gerllaw yn ail hanner y 19ed ganrif. Ymhen amser gwerthwyd y tir gan yr Ardalydd i Gyngor Dosbarth Trefol Porthaethwy; cafodd ei agor yn ffurfiol i’r cyhoedd yn 1951. Erbyn hyn mae’n Warchodfa Natur Leol.
Yn 1188 yn ystod eu taith drwy Gymru yn pregethu ac yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad, croeswyd y Fenai gan Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint. Noda Gerallt i’r Archesgob, ynghyd ag archddiacon lleol o’r enw Alexander, a Seisyll, abad Ystrad Fflur, bregethu ar lan y môr lle roedd y creigiau yn ffurfio bwa ar lun theatr. Credir mai’r lleoliad hwnnw oedd lle a elwir heddiw yn Goed Cyrnol.
Ceisiodd y pregethwyr berswadio bagad o ddynion ifainc i ymuno â’r groesgad, ond ofer fu eu hymdrech. Dridiau’n ddiweddarach, ymosodwyd ar y llanciau gan ladron. Lladdwyd rhai ohonynt a chlwyfwyd eraill. Listiodd y rheini a oroesodd yn ddiymdroi. Mae Gerallt yn ein hysbysu yn ei ddyddiadur mai “Môn Mam Cymru” fu enw’r ynys erioed am ei bod yn cynhyrchu mwy o rawn na’r un ardal arall yng Nghymru ac yn llwyddo i wneud hynny hyd yn oed pan oedd cnydau’n methu ym mhob man arall.
I’r dwyrain o Goed Cyrnol, ger y briffordd, mae safle ffair geffylau a gynhelid o 1690 ymlaen. Mae’r enw’r safle wedi newid dros y blynyddoedd - y Smithfield, Cae Sêl (sale field) a Mart. Chwalwyd y safle er mwyn adeiladu archfarchnad a fu yn ei thro yn eiddo i Leo’s, y Co-op ac erbyn hyn Waitrose.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chyngor Tref Porthaethwy
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |