Cymraeg Llyn y Felin a Llyn Gas

Logo of Welsh Place Name Society

Llyn y Felin a Llyn Gas, Porthaethwy

Mae llanw uchel yn gorchuddio’r tir sydd i’r dwyrain o’r llwybr yn y fan hon ac i’r gogledd o’r cerrig sarn sy’n arwain at Ynys Tysilio (Church Island). Un hen enw ar yr ardal hon yw Melin Heli. Bu melin heli neu melin lanw a chored yma am sawl canrif. Y llanw a yrrai beirianwaith y felin ac ar drai rhwystrai’r gored y pysgod rhag dychwelyd i’r Fenai. Mae dogfennau o’r 14 ganrif yn cofnodi Melin Bach ar y safle.

Mae rhai o furiau cerrig y felin a’r gored yn amlwg ar lanw isel. Yr enw ar y pwll a oedd yn gysylltiedig â’r felin oedd Llyn y Felin.

Yn 1858 codwyd gwaith nwy ar dir a elwid yn sgil hynny yn Gasworks Field. Dyma’r cae rygbi sydd ar y dde i chi, y tu hwnt i Lyn y Felin. Caeodd y gwaith yn 1952. Er 1885 y gwaith hwn oedd yn cyflenwi nwy i oleuo strydoedd Porthaethwy yn ystod y nos, ond dros dymor y gaeaf yn unig ar y cychwyn. Cyfeiriai’r bobl leol at y llyn fel Llyn Gas neu Llyn Gias.

Roedd rhyd yma yn ogystal ac fe’i coffeir gan enw rhes o dai, sef Rhyd Menai, a adeiladwyd yn 1919.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Place Names Unbundled Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button