Llynnau Mymbyr viewpoint Cymraeg

Golygfan Llynnau Mymbyr, ger Capel Curig

Yr olygfa o'ch blaen, ar ddiwrnod clir, ydi’r mwyaf poblogaidd yn Eryrir ymhlith ffotograffywr, mae'n debyg. Mae ffotograffwyr lleol yn jocio bod yna dyllau trybedd (tripod) yn y ddaear. Defnyddiwch y llun islaw i weld enwau'r mynyddau.

Llynnau Mymbyr ydi’r llynnau o’ch blaen, neu efallai un llyn gyda gwddf cul o ddŵr ger wrth ei ganolbwynt. Efallai mai "Mymbyr" oedd person ers talwm efo cyswllt lleol.

Esgair ydi Cefnycerrig sy’n arwain i lawr o Foel Siabod.

Brig deheuol masiff Yr Wyddfa ydi Y Lliwedd. Nid yw tarddiad yr enw hynafol hwn yn hysbys. Un ddamcaniaeth yw ei fod yn dod o hen air i ddisgrifio grŵp o ddynion neu filwyr. Gallai hyn gysylltu â'r straeon am y Brenin Arthur yn cysgu gerllaw, yn aros am yr alwad i amddiffyn ei wlad unwaith eto.

Disgrifir Yr Wyddfa yn aml fel y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, er ei fod yn gorwedd yn gyfan gwbl yng Nghymru! Ystyr "Gwyddfa" ydi man claddu. Mae’r enw hwn yn gysylltiedig â chwedl Rhita Gawr. Dywedir y claddwyd y cawr ar y mynydd. Roedd Rhita wedi gwneud ei ddillad o farfau’r gelynion a laddodd. Mae stori hynafol tebyg yn bodoli yng Ngwlad Pwyl, am gawr o’r enw Rittagorus. Mae hyn yn awgrymu cysylltiad Celtaidd rhwng Cymru a gwlad Pwyl.

Mae ystyr Carnedd Ugain yn aneglur. Mae rhai yn credu fod yr enw yn dynodi'r 20fed carnedd mewn rhyw gyfres o garneddau (cairns), ond dydi ffurf y geiriau “Carnedd Ugain” ddim i'w gweld yn cyd-fynd a’r theori yna. Efallai mai enw person a adlewyrchir yn y gair Ugain yma.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL24 0ET

photo_of_snowdon_massif