Promenâd Penmaenmawr
Mae'r cerdyn post isod yn dangos Penmaenmawr yn y cyfnod pan oedd yn gyrchfan ffasiynol ar gyfer y dosbarth canol uwch. Roedd y Prif Weinidog William Ewart Gladstone yn ymweld yn aml, ac wrth wneud yn atgyfnerthu enw da y dref. Roedd hyd yn oed yn cadw dyddiadur dyddiol o'i ymdorchiadau yn y môr. Mae un tudalen yn ei ddyddiadur yn cofnodi iddo golli allan ar ei dip olaf, ar ddiwedd wythnos o ymdrochi, o ganlyniad iddo gael fola sal oherwydd gor-amlygiad i'r môr oer ym mis Medi!
Ar y pryd, roedd cael lliw haul ar eich croen yn gysylltiedig â’r dosbarth gweithiol. Ond roedd ymdrochi yn y môr yn cael ei ystyried yn dda i’r iechyd. Roedd y cytiau traeth, a welir ar ochr chwith y llun, yn cael eu tynnu i mewn i'r môr. Byddai ymwelwyr cefnog yn newid dillad y tu mewn i'r cwt, ac fe fyddai dynion cyhyrog a elwir yn "dippers" wrth law i’w cynorthwyo i ymdrochi yn y môr oer.
Yn oes Fictoria, rhanwyd traeth Penmaenmawr yn feysydd ar gyfer foneddigion a boneddigesau i ymdrochi. Roedd hyd yn oed ran o'r traeth wedi’i neulltio ar gyfer leianod! Caniatawyd ymdrochi cymysg ar draethau o tua 1890.
Yn yr 20fed ganrif, adeiladwyd promenâd eang gyda llochesi a cytiau traeth sefydlog ar gyfer y nifer cynyddol o deuluoedd a gyrhaeddai ar y rheilffordd neu’r ffordd. Roedd rhan orllewinol y traeth yn cael ei ddefnyddio gan y cwmni chwarel i lwytho llongau ar bwys glanfeydd.
Erbyn y 1970au hwyr roedd y brif ffordd drwy Penmaenmawr yn orlawn gyda cheir twristiaid, wagenni chwarel a lorïau cymalog yn teithio i'r porthladd fferi yng Nghaergybi. Daeth Gwibffordd yr A55 â rhyddhad, ond trwy golled ymyl ddeheuol yr hen promenâd. Agorwyd promenâd llai ym 1988, gyda rhes unigryw o gytiau traeth wedi’u hadeiladu i mewn i wal gynnal yr A55! Mae'r ardal yn cynnwys caffi, pwll padlo a chlwb hwylio, ac mae'n boblogaidd gyda phobl leol yn yr haf.
Gyda diolch i Raymond Thomas, David Bathers a Dennis Roberts, o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr
Gweld Map Lleoliad