Perllan gymunedol hanesyddol

Perllan gymunedol hanesyddol

Yn yr oes a fu, tyfwyd ffrwythau a llysiau ar y llethrau ffrwythlon sy’n gwynebu’r de y tu allan i furiau’r dref. Esgeuluswyd y safle hwn yn ail hanner yr 20ed ganrif, gyda dyfodiad masgynhyrchu bwyd. Byddai rhai o’r trigolion yn hel ambell i afal, eirinen neu ellygen, ond roedd y rhan fwyaf o’r cnwd allan o’u cyrraedd ac fe aeth yn wastraff.

Yn 2007, ffurfiwyd Grwp Cymunedol Perllan Conwy i gynnal a gwella’r safle. Mae’r grwp yn gweithio ar y cyd efo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, perchennog y tir. Torrwyd yn ôl ar fathau o blanhigion sy’n tueddi i feddiannu’r tir, yn cynnwys sycamorwydden, ond gadewir gordyfiant o gwmpas y coed i gynorthwyo bywyd gwyllt a chynhyrchu mwyar duon a ffrwythau’r rhosyn gwyllt (cynhwysion ar gyfer jam a diodydd a wneir gan wirfoddolwyr o’r grwp). Mae tocio gofalus wedi cynyddu’r cnwd ar y coed, ac mae’r grwp yn cynhaeafu’r ffrwythau i’w dosbarthu nhw yn y gymuned.

Mae mathau rhai o’r coed yn dal yn ddirgelwch. Gwyddom fod rhai eraill yn hen fathau, yn cynnwys a grwp mwyaf a adnabyddir o Eirinen Ddinbych (a fyddai wedi’i enwi yn Eirinen Gonwy petai’r grwp yma o goed wedi’i ddarganfod yn gyntaf!). Mae rhai o’r mathau afal yn dyddio o’r 17eg a’r 18ed ganrifoedd ac o’r 19eg ganrif cynnar, yn cynnwys Court Pendu Plat, Ashmead’s Kernel a Devonshire Quarrenden.

Mae’r grwp yn cynnal seremoni Gwasail yn y berllan pob mis Ionawr, yn atgofydi hen ddefod i ddiolch i’r coed am y cynhaeaf diwethaf ac i’w deffro at y flwyddyn sydd i ddod.


Where is this HiPoint?

Gwefan Grwp Cymunedol Perllan Conwy