Tafarn yr Erskine Arms, Conwy

Tafarn yr Erskine Arms, Stryd Rosehill, Conwy

Yn y 19eg ganrif, adnabwyd yr adeilad hwn fel yr Erskine Family Hotel neu enwau eraill a oedd yn cynnwys “Erskine”. Ym 1859 arhosodd y nofelydd a bardd Charlotte Brontë yn yr adeilad gyda’i gwr. Ddegawdau wedi hynny, fe gofiodd ei gwr mai lle pleserus i aros ynddo oedd yr adeilad.

Ehangwyd yr adeilad yn hwyr yn y 19eg ganrif. Mae ganddo gornel ongl awchlym ymhle mae’r talcen gogleddol yn cwrdd â gwyneb blaen yr adeilad.

Côd post:: LL32 8LD    Map

Gwefan yr Erskine Arms