
Yn 1890 arhosodd Brenhines Romania yn y Marine Hotel, a elwid ar y pryd yr Adelphi Hotel. Roedd hi wedi bod yn sal, ac awgrymodd Tywysog Cymru y dylai hi aros yn Llandudno tra roedd hi'n gwella. Pan gyrhaeddodd hi, doedd hi ddim yn hapus i fod mewn tref gwyliau prysur, ond yn fuan syrthiodd y Frenhines mewn cariad â Llandudno a Gogledd Cymru. Roedd hi wedi ysgrifennu nofelau a cherddi, mewn pedair iaith wahanol, ac fe fwynhaodd hi ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd pobl Llandudno yn hoff ohoni. Ychydig cyn iddi adael, gorymdeithiodd plant y dref heibio ei gwesty.

Wedi cyrraedd pen y daith?
Os nad ydych wedi codi taflen weithgaredd o'r Ganolfan Groeso (yn Stryd Mostyn) eto, yna cliciwch yma i gael map o leoliadau cod QR y plant.
Neu lawrlwythwch y daflen weithgaredd yma (pdf, 5.2MB) i'w hargraffu adref cyn eich ymweliad.
Neu lawrlwythwch y daflen weithgaredd yma (pdf, 5.2MB) i'w hargraffu adref cyn eich ymweliad.