
Mae'r llechen yma yn cofio cymeriad lleol. Roedd trigolion Llandudno yn ei alw "Ted yr Ogof". Magodd ei hen nain a thaid 15 o blant tra roeddent yn byw mewn ogof ger Llandudno!
O hynny ymlaen, adnabwyd y teulu fel " teulu yr Ogof". Byddai Ted yn dal pysgod yn y môr ac yna eu gwerthu o gert yn Llandudno. Os oeddech chi ar wyliau yma yn yr haf, fe fyddech yn gallu talu iddo fynd â chi allan ar ei gwch pysgota i ddangos yr arfordir i chi.

Wedi cyrraedd pen y daith?
Os nad ydych wedi codi taflen weithgaredd o'r Ganolfan Groeso (yn Stryd Mostyn) eto, yna cliciwch yma i gael map o leoliadau cod QR y plant.
Neu lawrlwythwch y daflen weithgaredd yma (pdf, 5.2MB) i'w hargraffu adref cyn eich ymweliad.
Neu lawrlwythwch y daflen weithgaredd yma (pdf, 5.2MB) i'w hargraffu adref cyn eich ymweliad.