
Cafodd Brodordy'r Brodyr Duon ei adeiladu ym 1256. Roedd pobl grefyddol a oedd yn cael eu galw'n 'frodyr' yn byw, gweithio a gweddïo yma.
Roedden nhw'n cael eu galw'n frodyr duon gan eu bod yn gwisgo clogynnau a chycyllau tywyll.
Diddymu'r mynachlogydd::
Ym 1536 dechreuodd Harri'r VIII ar y gwaith o gau'r holl dai crefyddol yn y wlad. Roedd hyn yn cynnwys brodordai a'r holl fynachlogydd. Cafodd y brodordy yng Nghaerdydd ei gau ym 1538.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, rhoddodd Ardalydd Bute deils ar y llawr a oedd yn edrych fel y rhai a fyddai wedi bod ar y llawr yn y brodordy gwreiddiol. Dim ond llond dwrn o deils sydd ar ôl. Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw? Mae lluniau o blanhigion ac anifeiliaid arnyn nhw.
Wedi cyrraedd pen y daith?
Os nad ydych wedi casglu taflen weithgareddau o Ganolfan Addysg Parc Bute, Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi'r Tŷ Haf neu Gaffi'r Ardd Gudd, cliciwch yma am fap o godau QR y plant.