Porth y Gorllewin, Stryd y Castell
Dyma lle roedd ceidwad parc y teulu Bute a'i deulu'n byw.
Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan Alexander Roos fel ei fod yn edrych fel castell bychan.
Cafodd Ystafelloedd Te Pettigrew eu hagor yma ym mis Mawrth 2012. Maen nhw wedi eu henwi ar ôl Andrew Pettigrew, prif arddwr Ardalydd Bute.
Ewch i mewn ac edrychwch ar y teils ar y llawr. Cafodd y rhain eu hachub o Frodordy'r Brodyr Duon.
Wedi cyrraedd pen y daith?
Os nad ydych wedi casglu taflen weithgareddau o Ganolfan Addysg Parc Bute, Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi'r Tŷ Haf neu Gaffi'r Ardd Gudd, cliciwch yma am fap o godau QR y plant.