Canolfan Addysg Parc Bute, Planhigfa a Chaffi’r Ardd Gudd
Edrychwch o’ch blaenau. Dyma Ganolfan Addysg Parc Bute, y blanhigfa a Chaffi’r Ardd Gudd.
Wyddech chi? Mae'r Ganolfan Addysg yn ecogyfeillgar. Mae paneli solar ar y to i gasglu ynni o'r haul, ac mae rhan ohono wedi'i gorchuddio â phorfa!
Rhwng 1906 a 1913 roedd gardd furiog y tu ôl i'r mur a welwch o amgylch yr ardd heddiw. Dyma lle roedd garddwyr y teulu Bute yn tyfu ffrwythau a llysiau i'r teulu. Pan fyddai'r teulu Bute yn eu cartref yn yr Alban bydden nhw yn aml yn bwyta ffrwythau a llysiau a gafodd eu tyfu yn eu gardd yng Nghaerdydd. Byddai'r garddwyr yn anfon y ffrwythau a'r llysiau ar y trên!
Wyddech chi? Mae miloedd o blanhigion yn cael eu tyfu yn y blanhigfa ar gyfer y ddinas a'r parciau.
MAE'R DASG WEDI'I CHWBLHAU! Da iawn chi am gwblhau'r daith!
Eich gair seren yw Pencampwr ac rydych chi'n bencampwr go iawn am gwblhau taith antur Parc Bute
Mae gennym ni lond y lle o goed ym Mharc Bute. Ond rydyn ni'n wahanol i'r parciau eraill. Mae gennym ni fwy o 'Goed Gorau' nag unrhyw barc cyhoeddus arall yn y DU. Ystyr 'coed gorau' yw'r coed mwyaf o'u math yn y Deyrnas Unedig!!
Diolch yn fawr iawn i Glwb Hanes gwych Ysgol Gynradd Ton yr Ywen am greu Taith Antur QR arbennig i'r plant.
Diolch i bawb am eich holl waith caled
☺
Os nad ydych wedi casglu taflen weithgareddau o Ganolfan Addysg Parc Bute, Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi'r Tŷ Haf neu Gaffi'r Ardd Gudd, cliciwch yma am fap o godau QR y plant.