Trowch eich cefnau at y castell. O'ch blaen mae dwy res hyfryd o goed ginco.
Mae coed ginco ymysg y mathau hynaf o goed yn y byd. Maen nhw mor hen, gallai'r dinosoriaid fod wedi bwyta eu dail!
Mae'r coed yn edrych yn brydferth iawn yn yr hydref pan fydd y dail yn troi'n felyn, fel y gallwch ei weld yn y llun.
Wyddech chi?
Bob haf mae ffrwyth melyn/brown yn tyfu ar y coed benywaidd, ac mae'r ffrwyth hwn yn drewi pan fydd yn pydru!
Dyma pam mai llysenw'r goeden yw'r 'goeden ddrewllyd'.
MAE'R DASG WEDI'I CHWBLHAU! Da iawn chi am gwblhau'r daith!
Eich gair seren yw Pencampwr ac rydych chi'n bencampwr go iawn am gwblhau taith antur Parc Bute
Mae gennym ni lond y lle o goed ym Mharc Bute. Ond rydyn ni'n wahanol i'r parciau eraill. Mae gennym ni fwy o 'Goed Gorau' nag unrhyw barc cyhoeddus arall yn y DU. Ystyr 'coed gorau' yw'r coed mwyaf o'u math yn y Deyrnas Unedig!!
Diolch yn fawr iawn i Glwb Hanes gwych Ysgol Gynradd Ton yr Ywen am greu Taith Antur QR arbennig i'r plant.
Diolch i bawb am eich holl waith caled
☺
Os nad ydych wedi casglu taflen weithgareddau o Ganolfan Addysg Parc Bute, Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi'r Tŷ Haf neu Gaffi'r Ardd Gudd, cliciwch yma am fap o godau QR y plant.