Mae'r bont fechan hon wedi'i henwi ar ôl yr Arglwyddes Maria North (Arglwyddes Bute), a oedd yn byw gyda'i theulu yng Nghastell Caerdydd.
Adeiladodd y teulu Bute y bont oherwydd doedden nhw ddim yn hoff o'r syniad o nofio ar draws y dŵr i gyrraedd eu gerddi ar yr ochr arall!
Gofynnodd Arglwyddes Bute i'r gweithwyr balu ffynnon ger y bont hefyd, fel y gallai ei theulu gael dŵr glân i'w yfed bob amser. Allwch chi ddod o hyd iddo?
Mae'r bont yn lle da i sefyll a gwylio'r hwyaid yn chwarae yn y dŵr.
Wedi cyrraedd pen y daith?
Os nad ydych wedi casglu taflen weithgareddau o Ganolfan Addysg Parc Bute, Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi'r Tŷ Haf neu Gaffi'r Ardd Gudd, cliciwch yma am fap o godau QR y plant.