Cylchdaith Parc Bute

Bute Park Logo

Cylchdaith Parc Bute

Dilynwch y gylchdaith o gwmpas y parc hwn yng nghanol Caerdydd i ddarganfod gorffennol rhyfeddol y parc, o'r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol at ei drawsnewidiad Fictoraidd i greu "tiroedd pleser" preifat y teulu Bute. Mae prosiect mawr wedi uwchraddio’r parc, gan ddatgelu, cadw ac ychwanegu nodweddion diddorol.

Ymhlith uchafbwyntiau'r daith y mae mur ag arno anifeiliaid wedi'u cerfio o garreg (a allwch eu hadnabod nhw i gyd?), lôn goed ginkgo ysblennydd, a rhai o'r sylfeini gorau o fynachlog ganoloesol ym Mhrydain.

Gallwch ymuno â'r gylchdaith ar unrhyw adeg, pan welwch codau QR HistoryPoints. Sganiwch y codau i lawrlwytho’r dudalen ar gyfer y lleoliad hwnnw, yna pwyswch "Nesaf" ar waelod y dudalen i weld beth sydd nesaf ar y llwybr. Yn y pen draw bydd y llwybr yn eich dychwelyd at eich man cychwyn.

I weld y daith ar-lein, dewiswch un o'r pwyntiau mynediad isod.

Y Mur Anifeiliaid, Stryd y Castell
Porthdy'r Gorllewin, Stryd y Castell
Mynedfa Pont y Mileniwm
Pont y Pysgotwr (mynedfa ger Coleg Brenhinol Cymru)
Porth Gogledd Castell Caerdydd (mynedfa ger Boulevard de Nantes)

I ddarllen am deithiau HistoryPoints eraill yng Nghaerdydd, cliciwch yma.

Gwefan Parc Bute