The Carmarthenshire Enlightenment tour

This tour in southern Carmarthenshire will enlighten you on the rapid improvement in literacy across Wales during the European ‘Age of Enlightenment’. In the mid-18th century the school teacher and priest Griffith Jones started training teachers at his home in Llanddowror so that they could spend two to three months each in different parishes teaching children from poor rural families how to read. The concept of ‘Circulating Charity Schools’ spread rapidly, and within a few decades Wales had become one of Europe’s most literate nations.

Many other people played roles in this remarkable story, including the indefatigable Madam Bevan and Peter Williams, whose affordable version of the Bible ensured there was Welsh reading material in most Welsh homes.

The schools also raised the Welsh language’s status, influenced Church liturgy, helped the Welsh printing industry’s development and unintentionally reinforced what later became the Welsh Presbyterian church.

The tour, created by the Carmarthenshire Antiquarian Society and HistoryPoints, starts in Llanddowror and ends in Llandyfaelog. The QR codes at each place will connect your phone to a web page about that location. Press ‘Next’ below the text on the page to see the page for the next location on the tour. (If you prefer to start at Llandyfaelog, simply press ‘Prev’ on each web page instead of ‘Next’.)

To follow the tour virtually, click here to start in Llanddowror.

To view all locations included in this tour on a map, click here (map opens in a new window).

 

 

 

Taith: Goleuo Sir Gâr

Nod y daith hon yn ne Sir Gaerfyrddin yw egluro sut y digwyddodd y cynnydd sydyn yn llythrennedd y Cymry yn ystod Cyfnod yr Ymoleuo yn Ewrop. Ganol y ddeunawfed ganrif dechreuodd yr athro a’r offeiriad, Griffith Jones, hyfforddi  athrawon yn ei gartref yn Llanddowror er mwyn iddyn nhw i dreulio dau neu dri mis mewn plwyfi gwahanol yn dysgu plant o deuluoedd gwledig tlawd sut i ddarllen. Lledodd cysyniad yr ysgolion cylchynol elusennol yn gyflym ac o fewn degawdau daeth Cymru yn un o’r cenhedloedd mwyaf llythrennog yn Ewrop. 

Bu gan lawer o bobl eraill ran yn yr hanes rhyfeddol hwn gan gynnwys y gymwynaswraig frwd Madam Bevan a Peter Williams. Sicrhaodd ei fersiwn fforddiadwy ef o’r Beibl bod deunydd darllen Cymraeg i’w gael yn y rhan fwyaf o gartrefi Cymru. 

Cododd statws yr iaith Gymraeg yn sgil sefydlu’r ysgolion; dylanwadwyd ar litwrgi’r Eglwys; bu twf yn y diwydiant argraffu yng Nghymru; ac yn hollol anfwriadol grymuswyd y mudiad a ddaeth yn y pen draw yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. 

Mae’r daith a grewyd gan Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin a HistoryPoints, yn cychwyn yn Llanddowror ac yn gorffen yn Llandyfaelog. Bydd y cod QR a welir ym mhob lleoliad yn cysylltu eich ffôn â thudalen ar y we sy’n rhoi gwybodaeth am y lleoliad hwnnw. Pwyswch ar ‘Nesaf’ ar waelod y dudalen i weld y dudalen ar gyfer y lleoliad nesaf ar eich taith. (Pe bai’n well gennych ddechrau yn Llandyfaelog, pwyswch ar ‘Cynt’ ar bob tudalen yn hytrach na ‘Nesaf’)   

I ddilyn y daith yn rhithiol cliciwch yma i ddechrau yn Llanddowror.

I weld pob lleoliad sy’n rhan o’r daith ar fap, cliciwch yma.