Safle glanio'r gwrachod, Llanddona
Glaniodd cwch yn llawn gwrachod a'u gwŷr ar y blaendraeth tywodlyd hwn ganrifoedd maith yn ôl, yn ôl y chwedl. Mae'r llun ar y dde yn dangos yr arfordir yma ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Roedd y cwch wedi cael ei adael i’r môr mewn gwlad dramor, Iwerddon o bosib, heb rwyfau, hwyl na llyw. Roeddynt yn ysu am fwyd a dŵr pan laniodd eu cwch yma, ac ar eu gorchymyn ymddangosodd ffynnon o ddŵr croyw yn sydyn.
Adeiladodd y mewnfudwyr gartrefi ger pentref Llanddona, ychydig i'r de o'r lan. Roedd y dynion yn smyglwyr dawnus. Dywedwyd eu bod yn cario pryfed yn eu mwgwd a fyddai'n cael eu rhyddhau pryd bynnag roedd y dynion yn colli brwydr gyda swyddogion Tollau. Byddai'r pryfed yn hedfan i lygaid yr ymosodwyr ac yn eu dall.
Roedd y menywod yr un mor ofnus i’r bobl. Pan fyddai moch yn cael eu cymryd i'r farchnad, ni fyddai neb yn gwneud cais nes bod unrhyw wrachod a oedd yn bresennol wedi cymryd eu dewis. Roedd hanesion am wrachod yn melltithio nentydd lle ymdrochodd pobl, neu'n gosod melltithion mewn ffynhonnau. Weithiau gwrachod achosodd i dda byw fynd yn sâl neu roi'r gorau i gynhyrchu llaeth, neu atal menyn rhag ffurfio yn y corddwr.
Ar un adeg gwysiwyd dewin o'r tir mawr i wella dyn melltigedig, ond ni allai ddod o hyd i gartref y dyn. Roedd y gwrachod wedi ei ryng-gipio a rhoi cyfarwyddiadau camarweiniol iddo. Roedd trigolion lleol yn rhesymu, pe na allai ddod o hyd i'w ffordd i'r claf, na allai fod wedi dod o hyd i achos ffordd y salwch!
Dywedwyd bod pwerau'r gwrachod yn gwanhau wrth i genedlaethau olynol gyd-briodi â phobl arferol. Fodd bynnag, adroddwyd yn 1892 bod ofn y gwrachod wedi parhau mor hwyr â chanol y 19eg ganrif.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL58 8UW Gweld Map Lleoliad