Cyn chwareli calchfaen, Penmon
Mae calchfaen carbonifferaidd wedi'i chwarelu yn y gornel hon o Ynys Môn ers canrifoedd lawer, rhai yn cael eu marchnata fel 'Marmor Môn' ar gyfer defnyddiau addurnol. Roedd chwarel fawr, o'r enw Parc Dinmor, i'r gogledd o Lwybr Arfordir Cymru yma.
Ar safleoedd Penmon a Flagstaff mae olion o adeiladau'r chwareli a incleiniau ar y tir, lle cafodd carreg ei gostwng i lanfeydd i'w cludo ar y môr.
Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos chwarel Parc Dinmor gyda chwarel Flagstaff yn y pellter. Mae'n dod o Gasgliad Aerofilms o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Gallwch weld carreg o'r ardal hon ym Mhriordy Penmon, Castell Biwmares a Chastell Caernarfon. Mae enghreifftiau diweddarach o'i defnydd yn cynnwys Pont Grog Menai, Pont Britannia, Neuadd y Dref Birmingham a'r glanfeydd a'r ceiau ar afon Liffy yn Nulyn.
O’i sgleinio, mae'r garreg yn cynhyrchu 'marmor brith' neu 'farmor' llwyd, a ddisgrifir weithiau fel 'croen llewpard'. Cafodd hwn ei farchnata fel Anglesey Marble. Achoswyd y brychni gan greadur tebyg i scampi a fwriodd yn y mwd ar wely'r môr. Yn y pen draw, caledodd y tyllau a’r scampi yn galchfaen. Ceir enghreifftiau gwych o Farmor Môn yn eglwys Trefnant, Sir Ddinbych (gweler y llun), lle cafodd ei ddefnyddio ar gyfer pulpud, ffont a cholofnau'r gangell.
Mae calchfaen yn dal i gael ei gloddio ger Moelfre am gerrig pensaernïol a theils 'marmor'. Erbyn hyn mae hen chwarel Parc Dinmor yn gartref i fferm bysgod, a oedd unwaith yn cynhyrchu draenogiaid môr (sea bass) ond na allai gystadlu â mewnforion rhad. Fe'i cymerwyd drosodd gan Mowi Scotland i gynhyrchu gwrachen fôr (wrasse), a elwir yn 'bysgod glanhau', sy'n cael eu cyflwyno i ffermydd eogiaid i fwyta’r llau môr o’u cyrff.
Gyda diolch i Michael Statham a Dr Timothy Palmer o Fforwm Cerrig Cymru, a'r CBHC. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
Mae copïau o'r llun o'r awyr a delweddau eraill ar gael o'r RCAHMW. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |