Cofeb Hywel ab Owain Gwynedd, Pentraeth

Cofeb Hywel ab Owain Gwynedd, Pentraeth

Mae'r gofeb ger y maes parcio ym mhen gorllewinol Traeth Coch yn coffáu Hywel ab Owain Gwynedd. Lladdwyd ef gan ei hanner brodyr Dafydd a Rhodri ym Mrwydr Pentraeth ym 1170.

Nid oes cofnod ysgrifenedig cyfoes o’r frwydr heblaw am gerddi a gyfansoddwyd gan un o frodyr maeth Hywel, a oedd ar ochr Hywel ac a oroesodd. Lladdwyd sawl brawd maeth. Roedd llysfam Hywel, Christina, yn rhan o’r cynllwyn, yn ôl y cofnod hwn, sy’n beio Dafydd ac yn dweud i Hywel gael ei ladd gan waywffon.

Mae haneswyr wedi pendroni dros leoliad maes y gad. Daeth astudiaeth gan Gildas Research ar gyfer Cadw yn 2013 i’r casgliad mai’r lle mwyaf tebygol oedd yr ardal lle mae’r ffordd i Roscefnhir yn gadael yr A5052 ym Mwlch heddiw, tua 3km i’r de o’r gofeb.

Bu tad Hywel, Owain Gwynedd, yn llywodraethu llawer o Gymru am ddegawdau. Rhoddodd Owain y dasg i Hywel i oruchwylio rhan o Geredigion ym 1139. Dros y 31 mlynedd ganlynol, bu Hywel weithiau'n ymladd ar ochr y Brenin Harri II ond bu’n ymladd yn erbyn y brenin ym 1157. Roedd yn fardd medrus. Mae wyth o'i gerddi wedi goroesi.

Yn draddodiadol roedd llywodraethwyr Cymru wedi rhannu eu heiddo rhwng eu meibion, ond mabwysiadodd Owain yr arfer Ewropeaidd modern o adael etifeddiaeth i'r mab hynaf. Mae'n debyg mai'r mab hwnnw oedd Hywel. Bu ei fam, Gwyddel o'r enw Pyfog, mewn perthynas ag Owain cyn priodas gyntaf Owain.

Bu farw Owain ym mis Tachwedd 1170. Yn fuan wedi hynny, ymosodwyd ar Hywel a’i frodyr maeth a’i gefnogwyr ger Pentraeth gan ddynion dan arweiniad Dafydd a Rhodri, meibion ​​Owain gan ei ail wraig, Christina. Mae'n debyg nad oedd grŵp Hywel wedi disgwyl yr ymosodiad. Claddwyd Hywel yn Eglwys Gadeiriol Bangor, lle claddwyd ei dad ond ychydig yn gynharach.

Nid oedd y frwydr yn derfynol. Parhaodd brwydro dros bŵer am flynyddoedd rhwng y meibion a oroesodd Owain. Priododd Dafydd â hanner chwaer y brenin ac ymgartrefu yng nghastell gwreiddiol Rhuddlan ond collodd ei deyrnas i'w nai, Llywelyn Fawr, yn y 1190au.

Ymhlith y ffynonellau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ‘The Battle of Pentraeth 1170’, adroddiad gan Gildas Research, 2013

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button