Cyn-gartref Dylan Thomas, Talacharn

Cyn-gartref Dylan Thomas, Talacharn

Bu’r bardd ac awdur Dylan Thomas yn byw yma o 1949 hyd 1953, y pedair blynedd olaf o’I fywyd. Yn y cyfnod hwnnw ysgrifennodd nifer o’r brif weithiau, yn cynnwys y ddrama radio Under Milk Wood a’r gerdd eiconig Do Not Go Gentle, a ysgrifennodd ar gyfer ei dad a oedd yn marw. O’r tŷ hwn ym 1953 y teithiodd Thomas i’r Unol Daleithiau ar ei bedwaredd daith yno. Yn Efrog Newydd fe aeth yn sal, a thrigodd y bardd mewn ysbyty yno, yn 39 oed.

Ni wyddom pryd yr adeiladwyd y tŷ, ond yn 1834 cafodd ei brydlesu i deulu lleol o’r enw Scourfield gan gorfforaeth y dref. Wedi hynny, cafodd ei rannu yn ddau annedd, cyn cael ei uno eto fel annedd sengl. Fe’i ddefnyddiwyd fel cartref preifat ac fel cartref gwyliau cyn i Margaret Taylor, un o noddwyr Thomas, brydlesu’r tŷ ar gyfer teulu Thomas ym 1949.

Ganed Thomas yn Abertawe, ac roedd ganddo berthnasau yn Sir Gaerfyrddin. Bu’n byw mewn day le arall yn Nhalacharn cyn symud at y Boathouse gyda’i wraig Caitlin a’u tri o blant. Addaswyd y modurdy ger a llwybr uchaf fel sied ysgrifennu i Thomas, ac fe gafodd ei yrfa adfywiad tra roedd yn gweithio yno.

Heddiw mae’r tŷ yn amgueddfa i’r bardd. Mae’n dal yn eddio i gorfforaeth Talacharn ond ar brydles i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy’n rheoli’r amgueddfa.

Map

Côd post: SA33 4SD

Cyn-gartref Dylan Thomas - Gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin

 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button