Swyddfa bost Criccieth

button-theme-womenSwyddfa bost Criccieth

Sefydlwyd y swyddfa bost gyntaf mewn siop o’r enw Victoria House ar ochr ogleddol y Stryd Fawr (rhif 15 heddiw). Yno y gweithredodd y swyddfa am bron i hanner can mlynedd. Ym 1910 penderfynwyd bod angen adeilad pwrpasol ac adeiladwyd y swyddfa bost presennol ar safle ar draws y ffordd gan John Roberts, o Bwllheli.

Pedair blynedd ar ôl ei hagor, roedd y swyddfa bost yn y newyddion ledled y wlad. Ar 2 Mehefin 1914 cynhaliwyd cyfarfod mawr o Ryddfrydwyr ger troed Castle Criccieth. Cyn gynted ag y dechreuodd y prif siaradwr, David Lloyd George, ei araith fe gafodd ei thorri ar draws gan ddwy swffragét. Adweithiodd y dorf.criccieth_arrested_suffragette

Fodd bynnag, roedd hyn ond yn ffordd i dynnu sylw. Tra’r oedd yr heddlu'n brysur, ymosododd dwy fenyw arall – wedi'u harfogi â morthwyl ac "allwedd gwely" mawr – ar y swyddfa bost, gan dorri tair ffenestr. Yna, rhedasant i lawr y Stryd Fawr a thorri mwy o ffenestri. Synnwyd y trigolion a’r siopwyr gan yr ymosodiad annisgwyl. O’r diwedd cawsant eu hatal a'u cymryd – yn cwffio ac yn gweiddi – i'r orsaf heddlu. Fe'u cymerwyd wedyn i Borthmadog i aros am lys arbennig y diwrnod canlynol.

Y bore wedyn parhaodd yr anrhefn gyda'r ddwy diffynnydd yn brwydro ac yn sgrechian ar bawb. Tra roedd un gerbron y fainc, roedd y llall, gan ddefnyddio ei gwely, wedi selio ei hun yn y gell. Anfonwyd am saer i lifo twll yn y drws. Wedyn gwthiwyd y swffragét trwy’r twll.

Cost y difrod i ffenestri’r swyddfa bost yn unig oedd tua £11 8s (tua £1,300 heddiw).

Ar ôl llawer o aflonyddwch, cafodd y ddwy eu hymrwymo i sefyll prawf yng Nghaernarfon. Yn y brawdlys y mis canlynol fe'u cyhuddwyd fel Olive Wherry a Georgina Lloyd. Cafwyd y ddwy yn euog ac fe’u carcharwyd am dri mis.

Gyda diolch i Robert Cadwalader

Cod post: LL52 0BU    Map