Former National School Penmaenmawr Cymraeg

Cyn-Ysgol Genedlaethol, Ffordd Bangor, Penmaenmawr

Adeiladwyd yr Ysgol Genedlaethol hon o 1872 i 1874 ar gyfer plant rhwng pedair a 14 oed. Cafodd ei enwi Ysgol Efrog Newydd, ar ôl y rhes o fythynnod cyfagos. O 1930 darparodd yr ysgol ar gyfer babanod plant oedran iau yn unig, gan fod plant dros 11 oed yn cael eu haddysgu yn Ysgol Uwchradd Charles Darbishire, sef Ysgol Pencae heddiw. Caeodd Ysgol Efrog Newydd ym 1961, gyda'i disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pencae. Ers hynny mae’r adeilad wedi bod yn gartref i ganolfan gymunedol, clwb ieuenctid a chlinig.

Crewyd Ysgolion Cenedlaethol gan y National Society for Promoting the Education of the Poor in the Principles of the Established Church in England and Wales. Ffurfiwyd y gymdeithas ym 1811, gyda’r sail y dylai'r crefydd cenedlaethol fod yn wraidd at addysg i blant tlawd. Cafodd adeiladu Ysgolion Cenedlaethol ei oruchwylio gan aelodau o'r eglwys Anglicanaidd lleol, gan gynnwys y ficer.

Drws nesaf i'r ysgol saif Eglwys Dewi Sant. Cafodd hyn ei gwblhau yn 1897 i ddarparu ar gyfer Anglicaniaid a dymunent addoli yn y Gymraeg. Cyn hynny, roedd gwasanaethau yn Gymraeg ar gael yn Neuadd y Genhadaeth yn Penmaenan (y clwstwr o strydoedd ym mhen gorllewinol Penmaenmawr).

Gyda diolch i Dennis Roberts o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL34 6NP