Cob Conwy

Cob Conwy

Old photo of Conwy Cob in the 1930sY Cob yw’r stribyn o dir sy’n croesi’r foryd rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno. Heddiw mae’n wythïen i gerbydau ffordd, trenau, cerddwyr a beicwyr sy’n dilyn Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Cyn y 1820au, byddai teithwyr yn croesi’r foryd ar gychod fferi – cludiant annibyniadwy a pheryglus. Cynlluniodd y peirianydd enwog Thomas Telford bont crog rhwng Castell Conwy a’r Ynys – yr enw ar ynys fechan gerllaw. Ym 1822 cychwynwyd ar y gwaith o godi arglawdd rhwng Yr Ynys a’r lan ddwyrieniol. Pan oedd y Cob yn gyflawn ym 1825, roedd holl ddwr y foryd yn gorfod pasio drwy’r adwy o dan y bont.

Yn y 1840au, llydanwyd y Cob ar gyfer traciau’r Chester & Holyhead Railway. Mae’r trenau hyd heddiw yn dringo’n serth o Gyffordd Llandudno i ochr ddwyreiniol Pont Tiwbaidd Robert Stephenson.

Ym 1888-89, crewyd parc ar Yr Ynys, efo mainciau a choed. Chwalwyd y parc ym 1955 gyda chychwyn y prosiect i adeiladu ail bont ffordd, y tro hwn pont a ddyluniwyd ar gyfer moduron. Gorffenwyd y bont fis Rhagfyr 1958. Mae pont Telford rwan yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Aerial photo of Conwy Cob in 1945Newidiwyd cymeriad y Cob yn y 1920au pan adeiladwyd “promenâd” dros y llethr i lawr at y dŵr ar yr ochr ogleddol. Mae'r hen gerdyn post yn dangos y Cob yn y 1930au. Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn ei ddangos ym 1945 gyda trên nwyddau yn croesi a phluen o stêm yn dod o'r locomotif.

Os edrychwch ar hyd y Cob o’r bont, fe welwch fod y wal barapet ymhell o fod yn syth! Yn ôl Llew Groom, hanesydd o Gonwy (yr oedd ei daid Llew Parry yn glerc gwaith), roedd gwaith adeiladu’r promenâd yn brin o arian a defnyddiwyd graean bras o’r aber yn lle creigiau mawr i adeiladu’r tir ym mhen Conwy. Pan setlodd y deunydd hwn yn ddiweddarach, gwthiodd y wal gynnal tuag allan. Roedd y wal barapet yn dilyn yr un llinell pan gafodd ei hadeiladu yn y 1950au gan y contractwr Llew Hughes, a elwid yn “Llew Brics”.

Ym 1966, codwyd pont concrit ar ochr ddwyreiniol y Cob i gario’r ffordd dros y rheilffordd i Landudno. Cyn hynny, roedd moduron yn gorfod oedi wrth groesfan.

Ers y 1990au cynnar mae’r Cob wedi bod yn fyrach, oherwydd y tir a godwyd wrth adeiladu’r twnel sy’n arwain yr A55 ar draws y foryd.

Ar ochr ddeheuol y Cob, yn weladwy o drenau sy’n pasio, saif hen graen segur. Mae hyn yn dynodi safle cei lle y trosglwyddwyd nwyddau am gyfnod rhwng trenau a chychod.

Map

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button