Angor ger cei Conwy

Does neb yn gwybod pa long oedd piau’r angor hwn. Fe’i canfyddwyd ar waelod y môr ger Llandudno wedi iddo fachu ar rwydi pysgota. Cododd Kilravock, cwch pysgota o Gonwy (llun ar y dde, gan John Lawson-Reay), yr angor – sy’n pwyso tua 3 tunnell. Mae’r angor wedi’i ffurfio o un darn mawr o haearn, wedi’i hollti i greu’r ddwy big.

llun_o_kilravockMae’r angor wedi’i sefydlu yma i goffau dewrder criw Kilravock ar 6 Mai 1968, pan oedd y llong deithwyr lleol St Trillo (llun isod, gan Peter Clark) wedi colli pwer ac yn drifftio’n beryglus o agos at Trwyn y Fuwch, i’r dwyrain o Landudno. Y diwrnod hwnnw roedd St Trillo yn gweithio fel tendr i long criwsio foethus Americanaidd, Kungsholm. Roedd St Trillo yn dychwelyd 325 o deithwyr Americanaidd i’w llong ar ôl trip diwrnod o amgylch Eryri pan glymodd un o raffau’r llong fawr yn sgriw gyrru St Trillo.

llun_o_st_trilloYn fuan wedyn, peidiodd un o injieni St Trillo â gweithio. Hefyd ar St Trillo roedd tua 50 o bobl leol a oedd yn awyddus i gael cip agos ar y Kungsholm cyfareddol. Teimlai llawer o’r teithwyr yn sâl, wrth i St Trillo siglo ar donnau mawr mewn gwynt 35mya. Llwyddodd bad achub Llandudno i gael rhaff at St Trillo a’i chadw o’r creigiau tan y cyrrhaeddodd Kilravock.

Roedd criw Kilravock ar ganol dadlwytho’u pysgod ar gei Conwy pan glywsant negeseuon radio yn awgrymu y gallai trychineb ddigwydd. Rhuthrodd y gwch pysgota gyda’i chapten, Jack Williams, yn ôl i’r môr a phasio bar y foryd ychydig cyn i’r llanw ddisgyn gormod. Tynnodd St Trillo yn ôl i bier Llandudno. Gwyliwyd y cyfan gan filoedd o bobl ar y lan.

llun_o_kunghsolmAr y dde mae llun o Kungsholm ger Llandudno gan John Lawson-Reay.

Cod post: LL32 8BD    Map

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button