Hen Fwi Fairway, Cei Conwy

Hen fwi Fairway, Cei Conwy

Angorwyd yr hen fwi hwn at wely’r môr yn aber y foryd am rhyw 80 mlynedd. Dangosodd y man lle cychwynai’r sianel i mewn i harbwr Conwy. Roedd y man hwn rhyw dair milltir i’r gorllewin o’r mynedfa i’r harbwr. Roedd y dwr wrth ymyl y bwi yn ddigon dwfn i gychod i arnofio yn ddiogel, hyd yn oed ar lanw isel. Daeth fersiwn modern yn lle’r hen fwi yn 2007.

Heddiw saif yr hen fwi ar y rhan o’r cei a grewyd yn 2005, yn ymestyniad i’r cei gwreiddiol a adeiladwyd ym 1833. Roedd wal y cei gwreiddiol yn gorffen ychydig i’r gogledd o Ganolfan Cregyn Gleision Conwy. Peiriannydd y cei oedd William Provis, a oedd gynt wedi helpu i godi’r bont crog yng Nghonwy.

Honir fod ysbryd mynach yn cyniwair y cei. Roedd abaty yng Nghonwy cyn adeiladu’r castell a’r dref gaerog, pryd y cafodd y mynachod eu symud o Gonwy.

Mewn dwr bas ychydig i’r gorllewin o Fairway y mae creigiau Llys Helig. Yn ôl y chwedl, roedd yno blasty ond fe’i chwalwyd gan y llanw fel cosb am bechodau cyndeidau’r teulu.

Mae chwedl arall yn adrodd hanes Santes Ffraid, a hwyliodd ar dywarchen at lan moryd Conwy o Iwerddon. Pan ddaeth newyn pysgod i’r foryd, fe daflodd hi frwyn i’r dwr a gweddïo am eu troi yn bysgod, fel y digwyddodd cyn bo hir.

Chwedl arall yn gysylltiedig efo’r glannau yma ydi hanes morforwyn a felltithiodd tref Conwy ar ôl iddi gael ei golchi i fyny ar y tir. Gwrthodai’r pysgotwyr ei dychwelyd i’r môr, ac fe fu farw ar y lan. Dyma hen rigwm amdani:

Y forforwyn ar y traeth,
Crio, gwaeddi’n arw wnaeth.
Ofn y deuai drycin drannoeth;
Yr hin yn oer, a rhewi wnaeth.


Cod post: LL32 8BB    Map

Ghosts and Legends Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button
Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button