Tafarn y Liverpool Arms, Conwy
Tafarn y Liverpool Arms, Stryd Porth Isaf, Conwy
Mae’r Liverpool Arms wedi’i adeiladu ar ran o furiau tref ganoloesol Conwy. Mae’r adeilad yn agos at Borth Isaf, un o’r agoriadau gwreiddiol ym muriau’r dref.
Adeiladwyd y Liverpool Arms pan oedd Conwy’n borthladd ffyniannus a chredir iddo gael ei enwi gan un o'i berchnogion cyntaf, John Jones. Roedd yn gapten ar long fach a oedd yn hwylio rhwng Lerpwl a Chonwy. Mae wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Conwy.
Yn ôl yr hanes, mae ysbryd yn ymddangos yn y Liverpool Arms fel arwydd bod rhywun ar fin marw. Gyda’r ymddangosiadau hyn mae arogl cryf o fanila yn yr aer. Fanila oedd un o’r cargoau a laniwyd yng Nghonwy yn y canol oesoedd.
Neu, lawrlwythwch mp3 (415KB)
Diolch i RNIB Cymru am y sain yma
Roedd yn ddyletswydd ar yr heddlu i erlyn pobl am fod yn feddw mewn tafarndai. Mewn gwrandawiad trwyddedu ym 1903, gofynnwyd am i un o fynedfeydd y dafarn gael ei chau oherwydd roedd pobl feddw yn gallu ymlwybro allan trwy ba bynnag ddrws nad oedd yr heddlu wedi ei ddefnyddio ac osgoi cael eu dal!
Roedd y brif fynedfa o’r Stryd Fawr a’r fynedfa gefn o’r Lower Gate Street. Dywedodd Sarjant Evans "bod y cwsmer o ddosbarth gwell yn defnyddio un drws, tra bo’r dosbarth is fel y pysgotwyr a'r pedleriaid yn defnyddio’r llall”.
Mae’r llun, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y dafarn a’r Stryd Fawr ym 1952. Daw o Gasgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolig Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Côd post: LL32 8BE Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk