Tafarn yr Ynyscedwyn, Ystradgynlais

PWMP logobutton-theme-womenTafarn yr Ynyscedwyn, Ystradgynlais

Mae’r dafarn hon, a adwaenwyd yn gyffredinol fel y “Sced”, wedi bod wrth galon bywyd cymunedol ers amser hir. Roedd ei safle wedi’i gwasgu unwaith rhwng yr afon Tawe a Chamlas Abertawe (sef llwybr ffordd yr A4067 erbyn hyn). Y Sgwâr oedd yr enw ar y man o flaen y dafarn

Cynhaliwyd cwestau yn aml yn y gwesty, gan gynnwys cwest i farwolaeth David Davies yn 1845 a gafodd y llysenw “Dai Dwywaith”. Fe’i lladdwyd gan graig yn disgyn mewn gwaith glo, gan adael ei wraig a’i blant. Yn 1878, cafodd rheithfarn o foddi damweiniol ei ddychwelyd yn achos John Owens, pedair blwydd oed, pan ganfuwyd ei gorff yn y gamlas ger Ynys Isaf.

Roedd cwest a gynhaliwyd yma yn 1892 wedi canfod nad oedd neb i’w feio am farwolaethau chwe glöwr yng nghloddfa ddrifft Hendre-Ladis. Roedd y gawell er mwyn i lowyr mynd i mewn i’r gwaith glo a’i gadael wedi saethu i lawr, gan daro'r ategion to ymaith ac achosi’r graig i ddisgyn.

Ym mis Rhagfyr 1882, cerddodd tua 250 o dlodion lleol trwy’r eira trwchus i Dafarn yr  Ynyscedwyn i dderbyn dillad a blancedi a roddwyd iddynt gan Adelina Patti, y seren opera fyd-eang, oedd yn byw ger Abercraf. Cyfrannodd £100 mewn nwyddau i helpu’r tlodion – tua £12,000 mewn arian heddiw.

Roedd Madam Patti yn aml yn galw yn y gwesty am bryd o fwyd yn ystod dyddiau allan gyda’i ffrindiau artistig. Talodd am de arbennig i 2,000 o blant ysgol lleol yn 1892 ac ymweld â phob un o’r ysgolion. Y tu allan i Dafarn yr Ynyscedwyn roedd “bwa buddugoliaethus” (triumphal arch”, yn dangos geiriau’r gân “God bless the Queen”.

Cynhaliwyd cinio dathlu gan George Capell, y dyfeisiwr, yma yn 2887 wedi arddangos patent o’i wyntyll gwaith glo yn llwyddiannus yng ngwaith glo Ystrad Fawr. Roedd dwy set o lafnau gan ei wyntyll, gydag un set y tu mewn i’r llafnau eraill.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynhaliwyd “cyngherddau ysmygu” (lle’r oedd dynion yn ysmygu, sgwrsio a gwrando ar gerddoriaeth) yn Nhafarn yr Ynyscedwyn i groesawu milwyr adref, yn aml wedi iddynt gael eu hanafu neu pan yr oeddynt yn sâl. Roedd y sawl a dderbyniodd hyn yn cynnwys: David Jones o Heol Pelican (a anafwyd yn Hill 60 yng Ngwlad Belgin Belgium), a dderbyniodd oriawr ac arian; Sam Jones o Heol Pelican Street (wedi cael nwy a’i anafu gan shrapnel); a’r Preifat WJ Charles o Heol Brynawel, a dderbyniodd oriawr a chas sigarennau.

Trefnwyd adloniant ar gyfer y Preifat DH Lewis a’r Gyrrwr WT Owen gan y Pwyllgor Derbyn Milwyr lleol cyn iddynt ddychwelyd at yr ymladd yn 1915.

Cod post: SA9 1LA    Map  

I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tuag at y de ar hyd yr Heol Drafnidiol a throwch i’r chwith i fynd ar hyd yr Heol Drafnidiol a throwch i’r chwith i fynd ar hyd Heol Giedd. Capel Sardis yw’r adeilad cyntaf ar y chwith
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button