Rhodfa’r Belgiaid, Porthaethwy

Logo of Welsh Place Name Society

Rhodfa’r Belgiaid, Porthaethwy

Yn 1914 cafodd ffoaduriaid rhag y Rhyfel Byd Cyntaf o Mechelen, Gwlad Belg eu lletya ym Mhorthaethwy. I ddiolch am y croeso, dyma’r ffoaduriaid yn adeiladu’r rhodfa hon ar hyd y Fenai o Ynys Tysilio (Church Island) i Garreg yr Halen gan ei chwblhau yn 1916.

Cafodd y rhodfa ei hailadeiladu yn 1963 a’i hagor yn swyddogol 1965 gan Eduard Wilhelms, yr unig un o’r ffoaduriaid a oedd, bryd hynny, yn dal ar dir y byw. Gosodwyd wyneb newydd ar y rhodfa yn 2000 dan brosiect y mileniwm. Mae’n llwybr cerdded poblogaidd ar hyd glannau’r Fenai.

A chithau’n syllu ar y Fenai o’r rhodfa, chwiliwch am olion o ddŵr chwyrn. Mae’r dŵr rhwng Pont y Borth a Phont Britannia yn arbennig o beryglus i forwyr, gan fod lefel y llanw ar naill ben y Fenai yn wahanol i lefel y llanw ar y pen arall. Mae’r dŵr sy’n llifo naill ai i mewn neu allan o un pen yn taro, yn aml, yn erbyn y dŵr sy’n llifo naill ai i mewn neu allan o’r pen arall. Un enw ar y rhan hon yw’r Swillies (neu’r Swellies), sy’n cyfeirio at drobwll. Mae’n dal yn enw ar dŷ ar y llwybr sy’n esgyn o Garreg yr Halen (ar naill ben y rhodfa) at yr Anglesey Arms.

Enw arall ar y Swillies oedd Pwll Ceris (pwll ceirios, mae’n siwr), ac mae Ceris hithau yn enw ar dŷ sylweddol o frics coch ar lannau Môn, uwchlaw’r fan lle y drylliwyd y llong hyfforddi HMS Conway yn 1953 ar y creigiau a elwir The Platters. Mae rhagor am y llongddrylliad ynghyd â ffotograffau yma.

Mentrodd rhai dysgedigion gysylltu’r enwau Swillies a Ceris â chreigiau peryglus mytholeg glasurol sef Scylla a Charybdis!

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chyngor Tref Porthaethwy

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Place Names Unbundled Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button