Ynys y Moch, Porthaethwy
Ynys y Moch, Porthaethwy
Mae Ynys y Moch wrth droed tŵr Pont y Borth (heibio i’r bwâu cerrig). Cyn agor y bont yn 1826, byddai’r porthmyn yn nofio moch a gwartheg ar draws y Fenai. Yn ôl traddodiad, câi’r moch gyfle i orffwys ar Ynys y Moch.
Mae’n lle manteisiol i gael cip ar y bont feiddgar a gynlluniwyd gan Thomas Telford i hwyluso taith y post rhwng Llundain a Dulyn tra’n caniatâu i longau’r Llynges hwylio dani. Yr enw Saesneg ar y bont yw Menai Bridge, ac yn ddiwedarach lledodd hwnnw i ddynodi’r dref ar Ynys Môn.
Bodolai’r dref cyn cyfnod codi’r bont a’r enw Cymraeg arni yw Porthaethwy sy’n golygu “fferi neu fae Daethwy”. Enw llwyth yw Daethwy; roedd gan eu caer uwchlaw’r dref gysylltiad â’r groesfan, y groesfan gulaf ar y Fenai. Pwyswch ar y botwm priodol i glywed sut i gynanu’r enw Porthaethwy: Neu, lawrlwythwch mp3 (21KB)
Yr enw Cymraeg ar y bont yw Pont y Borth (mae Borth yn dalfyriad o Porthaethwy). Er i’r Cymry ddewis enwi’r bont ar ôl y dref, dewisodd y Saeson enwi’r dref ar ôl y bont!
Gwastatwyd Ynys y Moch yn 1818 i osod sylfeini tŵr y bont. Codwyd y gadwyn gyntaf i gynnal y ffordd ar 26 Ebrill 1826 gan griw yn gweithio capstan. Roedd y capstan yn dirwyn rhaff a âi dros y tŵr hyd at ben rhydd y gadwyn a oedd yn gorwedd ar rafft (roedd y pen arall eisoes wedi’i angori ar y tir mawr). Roedd torf sylweddol ar y glannau ac ar gychod yn gwylio’r achlysur; bu hwrê fawr pan gododd Telford a’i gydweithwyr a oedd ar ben tŵr Môn eu hetiau i ddynodi bod y gadwyn yn ei lle.
Darparwyd cwrw ar gyfer y labrwyr. Mentrodd tri ohonyn nhw, wedi hynny, gerdded bob cam i’r tir mawr ar hyd y gadwyn er bod y gadwyn honno’n codi ar bob pen ac yn 23cm yn unig o ran lled.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chyngor Tref Porthaethwy