Y Fenai o du’r Dwyrain
Y Fenai o du’r Dwyrain
Defnyddiwch y ffotograff isod i adnabod tirnodau o’r gysgodfa ger y maes bowlio.
Porth y Wrach yw’r lanfa yn y fan hon. Dynoda ‘porth’ naill ai fferi neu fae bychan. Y lanfa ar Ynys Môn oedd pen draw un o lwybrau croesi fferi Bangor. Pysgodyn yw ‘wrach’ (Saesneg wrasse) a geir ar hyd glannau creigiog. Mae Porth y Wrach, y warws hanesyddol a Porth Daniel, yn cael eu datblygu’n safle masnachu, hwylio a threftadaeth. Pwyswch ar y botwm priodol i glywed sut i gynanu’r enw Porth y Wrach: Neu, lawrlwythwch mp3 (19KB)
Adeiladwyd Prince’s Pier a Prince’s Quay yn 1838 i ddibenion mewnforio ac allforio nwyddau. Datblygwyd yr ardal yn bennaf gan deulu dylanwadol o Dreborth, y teulu Davies, a roddodd yn 1860 brydles hawliau glanio i’r City of Dublin Steam Ship Company. Roedd terfynfa’r cwmni wrth Prince’s Pier (neu Prince’s Landing Stage) a Prince’s Dock yn Lerpwl. Trosglwyddwyd yr enw o Lerpwl i’r safle hon ar ben draw eitha arall y daith sef Porthaethwy.
Prince Madog II yw’r llong yn y ffotograff, cwch ymchwil Ysgol Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor (un o’r ychydig adrannau o’r fath ym Mhrydain). Mae enw’r llong yn coffáu uchelwr o’r 12fed ganrif a oedd, yn ôl traddodiad, wedi sefydlu trefedigaeth yng Ngogledd America.
Yn wreiddiol bwriedid St George’s Pier ar gyfer y St George's Steam Packet Company. Fel rheol, llongau cario post oedd y packet boats a deithiai ar hyd y glannau: enw ar un o strydoedd Porthaethwy yw Stryd y Paced.
Llain fechan o dir yw Gallows Point, ger Biwmares. Yma y byddai troseddwyr yn cael eu crogi cyn adeiladu’r Court House yn 1614 a Charchar Biwmares yn ddiweddarach (1829). Enw hŷn ar Gallows Point oedd Osmund’s Ayre, enw Llychlynaidd sy’n golygu “graean neu fanc tywod Osmund”. Enw o dras Llychlynaidd yw Anglesey yn ogystal, Ongul’s -ey sef “ynys Ongul”.
Enw Llychlynaidd arall yw’r Great Orme, Llandudno. Ystyr yr ail elfen yw sarff ac ystyriai’r Llychlynwyr, mae’n amlwg, fod y pentir yn ymdebygu i sarff yn gorwedd ar ei hyd ar y môr. Enwyd Pier y Garth neu Pier Bangor sy’n ymestyn ymhell i’r culfor, ar ôl ardal o’r enw Garth ym Mangor. Ystyr Garth yw rhiw neu drum.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chyngor Tref Porthaethwy