Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mae'r gymdeithas yn hybu ymwybyddiaeth ac astudiaeth o enwau lleoedd Cymru, ac yn anelu i warchod enwau lleoedd sydd efallai mewn perygl o ddiffyg defnydd. Mae'r gymdeithas hefyd yn ystyried y berthynas rhwng enwau lleoedd, hanes a diwylliant Cymru.

Gwefan Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (Facebook)

Casgliad HiPoints:

 

 Abertawe-Gwynedd

Abertawe
Oxwich - lle tawel ym Mro Gwyr, ond beth yw'r cysylltiad gydag ychen?
Vardre, Clydach - (Y) Faerdre, sef maerdref
Ynysweryn - hen air Cymraeg am neidr oedd gweryn
Bro Morgannwg
Cold Knap - mae'n bosibl y daw'r elfen gyntaf o'r pyllau golosg a fu ar fferm gyfagos
Dunraven - enw Sgandinafaidd neu o’r Saesneg Hraefn's hill
Fferm Durval - yn cyfeirio at geirw, mae’n debyg
Caerdydd
Caerdydd - yn dynodi caer ger yr afon Taf
Golate - ffos a oedd yn frwnt ond yn ffordd gyfleus i gyrraedd yr hen lanfa, mae'n debyg
Crockherbtown - Crockerton gynt, mwy na thebyg yn dynodi ardal gwneuthuro potiau
Stryd Womanby - adlais o'r Llychlynwyr yng nghanol Caerdydd
Lamby - crair arall o'r Hen Norseg yn y brifddinas
Tredelerch - daw'r enw o hen faenor demen Rhymni
Radur - mae cofnod o'r enw Arad[ur] yn dynodi safle Cristnogol tua 1100
Caerffili (bwrdeistref sirol)
Caerffili - hen gaer, ond pwy oedd Ffili?
Troedrhiwfuwch - pentref coll yng Nghwm Rhymni
Casnewydd
Gold Tops - dengys ffurfiau cynharach mai bryn oer oedd y nodwedd yma
Bishton - "Fferm yr esgob", yn cofio cysylltiad gydag esgobion Llandaf
Afon Ebwy - o'r hen enw Ebwydd. Mae eb- efallai'n cyfeirio at geffyl (fel yn ebol
Peterstone Gout - mae "Gout" yn enw cyffredin ar Lefelau Gwent
Ceredigion
Cors Fochno - person sy'n anhysbys heddiw oedd Mochno
Pontarfynach - effallai mai ffin tiroedd abaty oedd yr afon Mynach
Aberaeron - er mor dawel yw'r afon Aeron, mae'r enw'n cyfeirio at dduwies rhyfel!
Cwmtydu - cwm a berthynai i rywun o'r enw Tudi
Lochdyn - efallai y daw yr elfen gyntaf o loch (Gwyddelig) ond yn dynodi glanfa yn hytrach na phwll
Llangrannog - cofnodwyd yr eglwys fel Gogof yn 1284. Cysylltir Sant Carannog gydag ogof cyfagos
Llwyndafydd - cofnodwyd yn 1488. Yn draddodiadol, rhoddodd y Brenin Harri VII gorn yfed i'r Dafydd hwn
Gilfachreda - cyfeiria'r ail elfen at berson o'r enw Rheda o bosib
Gwynedd
Caernarfon - mae'r enw Twthill yn dynodi hanes o ddefnydd milwrol
Llithfaen - efallai y daeth "Llith" o Iwerddon
Pistyll - yn cyfeirio at ffynnon, nepell o Eglwys Sant Beuno
Nefyn - enw person yn wreiddiol, Gwyddel o bosib
Porthdinllaen - mae'r elfen olaf yn rhannu gwraidd gyda Llŷn, a Leinster yn Iwerddon
Porth Meudwy - mae'r enw lleol Bodermid hefyd yn cyfeirio at feudwy
Aberdaron - dywedwyd mai duwies y dderwen oedd Daron
Porth Neigwl - mae'n debyg mai enw personol oedd Neigwl, efallai Sgandinafaidd neu Gwyddelig
Machroes, ger Abersoch - o bosib yn cyfeirio at rhos neu groes fawr
Bethesda - bu Capel Bethesda yn dominyddu'r dirwedd cyn i'r pentref dyfu'n dref
Tryfan
- mynydd amlwg, neu cyfeiriad at dair carreg ar y copa
Pont Pen y benglog - Dau esboniad posibl am y benglog hon
Ogwen - hen air am afon cyflym efallai
Nant Ffrancon - ai nentydd ydi'r gwaywffyn yn yr enw?
Yr Wyddfa - rhywle amlwg
Beddgelert - nid ci oedd Celert ond person
Penrhyndeudraeth
- dim ond un traeth sy'n bodoli bellach
Pont Briwet - cysylltiad posibl â'r berf briwo ac â nodwedd o'r tirlun
Minffordd - ar ochr yr heol
Dduallt - cyfeiriad at fryn tywyll
Tanygrisiau - efallai mai'r llwybr i Gwmorthin oedd y grisiau
Blaenau Ffestiniog - ni wyr neb pwy oedd Ffestin
Abergynolwyn - mae’r hen ffurf Abergwen Olwyn yn awgrymu cyswllt â gwennol

 

 Merthyr Tudful-Sir Fynwy

Merthyr Tudful (bwrdeistref sirol)
Merthyr Tudful - 'cysegrfa' oedd ystyr 'merthyr'
Pontsticill - gair arall am gamfa yw 'sticill'
Penybont
Cynffig - daeth enw'r dref a gollwyd i'r tywod o enw'r afon
Gwter-y-Locs, Porthcawl - gwelir gwter yn enw sawl sianel naturiol ar arfordir Morgannwg
Powys
Y Trallwng - rhywle lleidiog (ers talwm)
Machynlleth - does neb yn gwybod pwy oedd Cynllaith
Efyrnwy - enw sy'n cyfeirio efallai at berson o'r enw Ebur
Carreghofa - ceir yma ffurf arall o'r enw personol Hwfa
Y Gelli Gandryll - mae hen enw Lladin Sepes Inscisa yn dynodi clawdd neu ffens doredig
Y Gelli Gandryll - daw ‘Gipsy Castle Lane’ o enw gwawdiol ar fwthyn
Llanddew - eglwys sy'n ymroddedig i Dduw
Talgarth - mae'n debyg mai ffurf amherffaith o Brenig yw Enig (enw afon)
Sir Benfro
Amroth - yn gysylltiedig â Rhath, sef amddiffynfa
Hwlffordd - yn cynnwys yr Hen Saesneg hæfer, sef 'gafr'
Niwgwl - yn tarddu o’r Wyddeleg a'r hen Norseg, mae’n bosibl
Pen Cemais - Cemais oedd enw'r hen gwmwd
Sir Ddinbych
Gwesty'r Talardy, Llanelwy - daw'r enw o "talar" ("promontory") ond mae'r môr allan o'r golwg!
Roe Plas, Llanelwy - ar lan yr afon y gwelwch chi gliw i'r enw hwn
Rhuddlan - nodwedd o lannau'r afon a ysbrydolodd yr enw
Y Rhyl - Hyll oedd enw'r lle yn ôl un cofnod o 1506!
Bwlch yr Oernant - 'nant' yn golygu dyffryn yma
Eglwyseg, ger Llangollen -  efallai y gadawodd rhywun o'r enw Begel neu Megel farc ar yr enw
Moel Morfydd, ger Llangollen - mae botaneg yn fwy perthnasol yma na'r Morfydd honedig
Moel y Gamelin, near Llangollen - mae rhywbeth yn gam yma
Dyfrdwy - enw afon sy'n cyfeirio at dduwies
Sir Fôn
Dateglu enwau Porthaethwy - dilynwch y llwybr codau-QR i ddarganfod yr hanes ynghlwm wrth enwau lleol yn cynnwys Cilbedlam, Llyn Gas, Ynys y Moch, Ffordd Cynan a Bro Helen Rowlands
Ynys Gorad Goch - yn yr Oesoedd Canol, Ynys Gored Madog Goch. Ai esgob oedd y Madog hwn?
Llanddaniel-fab - mae'r enw wedi cyfeirio at Deiniol yn ogystal a Daniel yn y gorffennol
Cefni - daw enw'r afon mae'n debyg o geunant cul, rhywbeth prin ar yr ynys
Malltraeth - nid traeth plesurus oedd hwn! Iard Malltraeth oedd enw cynharach ar y pentref
Barclodiad y Gawres - enw sy'n awgrymu y taflodd gwraig cawr greigau ar y tir mewn dicter!
Pwllpillo - gwelir yr enw personol Pyll mewn hen gofnodion
Turkey Shore Road, Caergybi - Cors Starkey ac yna, erbyn y 18ed ganrif, Cors y Tyrci
Porth Llanlleiana - rhaid cadw meddwl agored, gan nad oes cofnod o leiandy yn yr ardal
Trwyn Eilian - cafodd enw Sant Eilian ffurf Lladin a'i ddrysu â Sant Hillary dros y canrifoedd
City Dulas - enw eironig efallai am gasgliad o adeiladau wrth ymyl yr afon Dulas
Traeth Coch - yn dynodi lliw'r draethell leidiog
Sir Fynwy
Llangatwg Feibion Afel, ger Trefnwy - yn tarddu, mae'n debyg, o nawdd rhywun o'r enw Afel a'i feibion
The Kymin, Trefynwy - o'r Gymraeg cymin efallai, ond mae'r dystiolaeth yn brin
Ochram, Llanellen - efallai'n deillio o air yn hen Lydaweg
Y Fenni - ceir yma gysylltiad Rufeining gyda'r gair cyfoes "gof"
Llangatwg Lingoed - yn cyfeirio efallai at "celyngoed"
Caggle Street, ger Llanwytherin - roedd baw anifeiliad dan droed ers talwm
Llanthony - talfyriad o Llanddewi Nant Hodni a gofnodwyd fel Lanthoni yn y 12ed ganrif

 

 Sir Gaerfyrddin-Wrecsam

Sir Gaerfyrddin
Hendy - daw enw'r pentref o waith alcam Hendy Tinplate, a godwyd yn 1866
Llandyfân - mae hen ffurfiau o’r enw Dyfan yn ffafrio Tyfân
Llanelli - dywedwyd mai disgybl i Cadog oedd Elli
Johnstown - yn cyfeirio at John Jones o Ystrad, a fu farw ym 1842
Pen-bre - pen y bryn
Cydweli - enghraifft o'r diweddiad -i yn dilyn enw person i ddynodi eu tir
Ferryside – roedd fferi yn croesi i Lansteffan
Llansteffan - sant Cymreig oedd Steffan efallai, yn hytrach na’r merthyr beiblaidd
Talacharn - gallai Lacharn fod yn gyfuniad o llachar a carn
Brixtarw, Laugharne – yr ail elfen o’r Saesneg star, sef moresg, mae’n debyg
Coran, Lacharn - "nant fechan", neu efallai enw personol Gwyeddelig
Pentywyn neu Pen-din - honnir fod yr enwau yn cyferio at nodweddion gwahanal
Marros - enw sydd efallai yn coffáu'r ceffylau gwyllt a borai gynt ar y mynydd
Sir Gonwy
Cwlach, Llandudno - yn adlewyrchu nodwedd annigonol yn y gorffennol
Porth Dyniewaid, Rhiwledyn - morloi oedd dyniewaid y môr
Creigiau Bwrlingau, ger Deganwy - cysylltiad posibl â bwrlwm, sef dŵr yn crychu
Fferm Pen Pyra, Dwygyfylchi - awgryma'r enw y ceid gellyg gwyllt yma
Rhaeadr Ewynnol, Betws-y-Coed - Rhaiadr y Wenol yn 1773, cyn i'r enw gael ei "gywiro"
Sir Y Fflint
Llinegr - enw Cymraeg sy'n tarddu o'r Saesneg
Lloc - o ffald i bentrefan, heibio swyddfa'r post
Pentre Ffwrndan - roedd fersiwn cynharach yn awgrymu cymuned mewn cynnwrf!
Oakenholt - o'r Saesneg Canol oken a holt
Mold ac Yr Wyddgrug - enwau gwahanol iawn ond yn cyfeirio at yr un tirnod
Caerwys - ceir cliw i darddiad tebygol yr enw yn y pwyslais ar y sill gyntaf
Torfaen
Cwmbrân - Hen enw ar dref newydd
Dorallt, Cwmbrân - "Torald" mewn cofnod o dua 1291. Mae'n cyfeirio at fryn cyfagos, mae'n debyg
Cwrt Henllys, Cwmbrân - Henllys oedd yr hen blwyf, cyn yr ardal breswyl presennol
Castell-y-bwch, Cwmbrân - yn cyfeirio at y ceirw a oedd yma mae'n debyg, ond beth oedd y castell honedig?
Llanfrechfa - mae'n debygol mai cyfeiriad at nodwedd tirlun yw brechfa, yn hytrach nag enw person
Gofera - man gorlifo ffynnon, tarddell neu nant oedd gofer
Wrecsam
Pontcysyllte - mae'r draphont mawreddog yn "cysylltu" ochrau'r dyffryn
Rhosymedre -mae'r emyn yn fwy hysbys na gwraidd yr enw!
Afon Alun - mae'n bosibl mai cyfeiriad at ddoleniad yr afon yw'r elfen Al-