Safle loc Crockherbtown, Heol-y-Frenhines, Caerdydd

button-theme-canalSafle loc Crockherbtown, Heol-y-Frenhines, Caerdydd

O’r 1790au i’r 1950au, roedd loc camlas union i’r gogledd o Heol-y-Frenhines. Tynnwyd y llun - trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd – oddeutu 1951, yn fuan cyn i loc Crockherbtown gael ei lenwi.

cardiff_crockherbtown_lockMae'r adeilad sydd i'w weld yn y gornel chwith uchaf bellach yn gartref i Gymdeithas Adeiladu'r Principality a Travelodge. Erbyn hyn, mae canolfan siopa Queens West ar safle'r loc. Y tu hwnt i'r loc, mae Heol-y-Frenhines yn rhedeg o'r chwith i'r dde yn y llun. Mae Arcêd y Frenhines wedi disodli'r adeiladau ar y top.

Roedd cychod o gyfeiriad Pontypridd yn cael eu gostwng yn y loc cyn mynd o dan Stryd y Frenhines mewn twnnel, 105 metr o hyd. Roedd rhan o'r twnnel yn rhy gul i lwybr tynnu parhaus. Byddai cwchwyr yn symud eu cychod trwy gipio cadwyn haearn wedi'i osod ar wal y twnnel, tra bod eu ceffyl yn cael ei arwain drwy'r strydoedd i'r llwybr tynnu ar yr ochr bellaf.

I'r chwith o'r loc yn y llun, roedd y ddaear ar lefel isaf y gamlas wrth geg y twnnel. Roedd y ffordd a welir y tu hwnt i'r wal wedi ei gosod ar bileri a thrawstiau dur, gan adael gwagle isod (sydd bellach yn gartref i fwyty'r Pillars).

Mae'r wal i'r dde o'r loc yn y llun yn bentir. Gosodwyd loc pwyso, lle'r oedd cychod yn cael eu pwyso ar grud, ar ochr dde'r pentir ym 1850. Cafodd ei symud i loc Heol y Gogledd ym 1894, fel y gwelwch yn y llun ar y dudalen hon.

Ynglŷn â’r enw lle:

Disgrifiai Crockherbtown yr hyn sydd bellach yn rhan ddwyreiniol Heol-y-Frenhines. Ymddengys iddi gael ei chofnodi gyntaf ym 1348 fel Crokarton, yna fel Crockerton o tua 1400. Mae'n debyg ei bod yn dynodi ardal lle’r oedd potiau yn cael eu gwneud neu eu gwerthu (mae Crokkere mewn Saesneg Canol yn wneuthurwr potiau a llestri). Ail-ddehonglwyd Crockerton yn y pen draw fel Crockherbtown, yn ôl pob tebyg trwy gamgysylltiad gyda “pherlysiau croc” (llysiau neu berlysiau wedi'u coginio mewn potiau). Nid oedd rhai pobl y dref yn hoffi'r enw, ac ym mis Rhagfyr 1886, cytunodd y cyngor i'w newid i Heol-y-Frenhines (enw a oedd eisoes yn disgrifio'r stryd ymhellach i'r gorllewin). Mae'r hen enw wedi goroesi yn Crockherbtown Lane, y tu ôl i'r siopau i'r gogledd o Heol-y-Frenhines.

Gyda diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am yr wybodaeth am yr enw lle

Cod post: CF10 2AQ    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button