Safle Camlas Morgannwg, Lôn y Felin, Caerdydd

button-theme-canalbutton-theme-women

Safle Camlas Morgannwg, Lôn y Felin, Caerdydd

Os ydych chi newydd sganio'r codau QR ar hyd Lôn y Felin, cymerwch eiliad i gymharu'r llun isod - trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd - gyda'r olygfa heddiw. Mae troad yn y stryd a'r adeiladau ar y dde yn gyfarwydd, fel y mae Gwesty'r Great Western yn y pellter, ond mae gweddill yr olygfa yn hollol wahanol erbyn hyn!

Dengys y llun sut yr oedd Camlas Morgannwg yn hollti canol Caerdydd ar ei ffordd o Ferthyr Tudful i'r môr. Roedd yn troi i'r chwith cyn Gwesty’r Great Western ac yn mynd o dan y rheilffordd.

cardiff_mill_lane_with_canal

Agorodd y gamlas ym 1794, a bu’n llwyddiant masnachol am ddegawdau, ond roedd yn segur erbyn i'r llun hwn gael ei dynnu yn yr 1940au. Cafodd y gamlas ei llenwi yn ystod yr 1950au cynnar.

Roedd y polion ar hyd ymyl Lôn y Felin yn y llun yn dal ceblau trydan ar gyfer tramiau, a oedd yn rhedeg ar 32 milltir o draciau yng Nghaerdydd. Ym 1907, sylwodd arweinydd tram a oedd yn mynd i gyfeiriad Cathays ar ddynes 22 oed ar wal ochr y gamlas yn y fan hon. Roedd hi'n dal babi. Rhedodd tuag ati a’i rhwystro rhag disgyn gyda'i babi i'r dŵr. Denai’r gamlas lawer o bobl a oedd â’u bryd ar ladd eu hunain, menywod ifanc gan amlaf.

Mae'r adeiladau sy'n weladwy ar y Stryd Newydd (ar y chwith, y tu hwnt i'r hysbysfyrddau posteri) yn cynnwys Cyfnewidfa Ffrwythau. Yn y pen pellaf, mae cyn-swyddfa'r Cwmni Ffôn Cenedlaethol, uniad o gwmnïau ffôn rhanbarthol a gymerwyd drosodd gan y Swyddfa Bost Gyffredinol ym 1912. Ceir mwy o wybodaeth am Stryd Newydd, a llun, ar ein tudalen am y gamlas yng nghornel Lôn y Felin.

Cod post: CF10 1FL    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

 

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button