Eglwys y Santes Fair, Y Gelli Gandryll

Eglwys y Santes Fair, Y Gelli Gandryll

A hithau y tu allan i hen furiau’r dref, efallai bod yr eglwys ganoloesol hon yn anarferol o ran ei lleoliad. Ond roedd yr eglwys wreiddiol ar y safle wedi’i chodi cyn adeiladu’r muriau. Fe’i sefydlwyd pan oedd y castell ar fryncyn i’r dwyrain o’r fynwent.

Ffurfiwyd plwyf newydd Y Gelli Gandryll c. 1115 (cyn hynny roedd yr ardal yn rhan o blwyf Llanigon).

Erbyn 1135, roedd yr eglwys wedi’i chysegru i Fair.

Pregethodd Baldwin, Archesgob Caergaint, yma ym mis Mawrth 1188 ac yntau yng Nghymru ar daith recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Roedd Gerallt Gymro yn cadw cwmni iddo. Wedi’r bregeth yn y Gelli Gandryll, yn ôl Gerallt, rhedodd nifer o ddynion ifainc at yr Archesgob ger y castell er mwyn ‘cymryd y Groes’ (sef, listio ar gyfer y groesgad). Ceisiodd gwragedd a ffrindiau rhai ohonyn nhw eu rhwystro trwy afael yn eu clogynnau gan eu bod yn ofni’r peryglon fyddai’n eu hwynebu dramor, ond gollyngodd y dynion eu clogynnau a rhuthro yn eu blaenau.

Yn 1254 rhestrir yr eglwys yn Ecclesia de Haya. Y tŵr yw’r unig ran o’r eglwys ganoloesol sydd wedi goroesi. Mae’r rhan helaethaf o’r eglwys yn perthyn i’r bymthegfed ganrif ond perthyn y copa castellog i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 Yn ystod cythrwfwl yr ail ganrif ar bymtheg ganrif symudwyd ficer Thomas Dennis o’r eglwys oherwydd ei deyrngarwch i’r brenin. Bu’r Gelli Gandryll heb ficer am flynyddoedd. Yn ddiweddarach roedd y plwyf, fel rheol, yn ngofal ficeriaid nad oeddent yn byw yn lleol. Dirywiodd yr adeilad tan iddo gael ei adnewyddu yn y 1830au.

Y tu fewn i’r eglwys mae delw o fynach; mae’n bosib mai un o’r ficeriaid cynnar yw hwn. Ceir cofebau i deulu pwysig y Gwynniaid. Mae cofeb i Elizabeth Gwynn, a fu farw yn 1702. Hi a sefydlodd yr elusendai lleol ar gyfer chwech o blwyfolion tlawd. Mae hefyd gofebau i bobl leol a fu farw yn y ddau Rhyfel Byd.

Cynhelir yr oriel gan bileri haearn bwrw. Adeiladwyd yr organ yn 1883 gan Bevington a’i feibion o Lundain; yn wreiddiol roedd hon yn Eglwys Holmer, Henffordd.

Y dyddiad ar y garreg fedd hynaf i’w chanfod yn y fynwent yw 1697.

Ynghylch yr enw lle:

Mae Hay, a elwir yn aml yn lleol "The Hay", yn tarddu naill ai o’r Hen Saesneg gehæg neu o hay, sef ei ffurf mewn Saesneg Canol, a ddynodai "ffens", ac yn ddiweddarach "ardal o fewn y ffens", gan gyfeirio mae’n debyg at ardal o fewn y castell. Weithiau yn y 12ed ganrif cyfeirir at y lle yn y Lladin fel Haia taillata a Sepes Inscisa, sy’n golygu "clawdd toredig/ffens doredig" ac anodd yw penderfynu ar wir arwyddocâd y ffurfiau hyn. Digwydd y ffurf Gymraeg, Y Gelli ("llwyn o goed/coedwig") o c.1400 ac ychwanegwyd Gandryll, sef candryll ("chwilfriw, drylliedig, adfeiliog") at rai enghreifftiau diweddarach. Ni chyfleir gan y gair Cymraeg yr un ystyr yn union â taillata ac inscisa; mae’n bosibl bod ffurfiau’r Lladin wedi eu camgyfieithu.

Diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, i Dai Thorne am y cyfieithiad, ac i Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am y nodiadau am yr enw lle

Cod post: HR3 5EB    Map

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button