Eglwys Dewi Sant, Llanddew

Eglwys Dewi Sant, Llanddew

Gellir olrhain hanes addoli ar y safle hwn i gyfnod clas Cristnogol cynnar. Yn ôl y chwedl, cafodd Eluned, un o bedair merch ar hugain tybiedig Brychan Brycheiniog, loches yma c. 500 OC.

Credir mai Brychan oedd brenin yr ardal hon a gafodd eu henwi yn ddiweddarach yn Brycheiniog, (sef gwlad Brychan). Yn ôl cofnodion canoloesol cynnar, ef oedd mab Anlac y brenin Gwyddelig; ac o du ei fam roedd yn ŵyr i’r brenin Cymreig Tewdrig a drigai yng Ngarthmadryn. Credai haneswyr ar un adeg fod hwn yn enw cynnar ar Frycheiniog neu’n enw arall ar Dalgarth. Erbyn hyn credir ei fod yn enw ar le sydd heb ei adnabod ger tref Aberhonddu.

Mae eglwys Lladdew wedi’i chysegru bellach i Dewi Sant ond does dim cysylltiad rhwng yr enw â Dewi. Ystyr yr enw yw ‘eglwys Duw’. Cysegriad amgen sef, i’r Drindod Sanctaidd a disodlodd y cysegriad hwnnw a sawl cysegriad arall i Dduw mewn sawl man yng Nghymru. Mae ffurfiau cynnar ysgrifenedig ar Llanddew yn cynnwys Lando (cyn 1162) a Landu Ecclesia Dei (c. 1191).

Esboniodd Gerallt Gymro yr enw yn y ddyddiadur a gadwodd ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Roedd yn gydymaith i Archesgob Caergaint ar daith bregethu a recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Pregethodd y ddau yn Llanddew ar 8 Mawrth a threulio’r nos yma. Roedd Gerallt yn berchen ar dŷ yn Llanddew am ei fod yn Archddiacon Aberhonddu rhwng c. 1175 a 1203.

Roedd palas Esgob yn Llanddew hefyd. Fe’i sefydlwyd gan Esgob Tyddewi yn y ddeuddegfed ganrif (ni chrewyd esgobaeth Aberhonddu tan yr ugeinfed ganrif). Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd y palas yn adfail. Gellir gweld olion ohono ar draws y ffordd o’r fynwent.

Mae rhannau o’r eglwys yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, o’r bymthegfed ganrif ac o’r unfed ganrif ar bymtheg. Ailgodwyd yr adeiledd yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Olion canoloesol sydd wedi goroesi yw’r bedyddfaen a dau gafn bychan o garreg ac ynddyn nhw roedd dŵr cysegredig - dŵr a ddefnyddid gan bobl wrth ymgroesi cyn mynd i mewn i’r eglwys.

Mae squints yn y muriau hefyd sef ffenestri bychain wedi’u gosod ar ongl, o bosibl ar gyfer pobl oedd yn dioddef o heintiau fel y gwahanglwyf, er mwyn iddyn nhw allu gwylio’r offeiriad heb fynd i mewn i’r eglwys.

Mae cofeb yn y fynwent i anrhydeddu pedwar dyn lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf –manylion isod.

Diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Rowena Akinyemi, ac i Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am y nodiadau am yr enw lle. Diolch i Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: LD3 9SS    Map

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button


Men named on Llanddew war memorial

Josiah Rees Williams, Private 2285. Died 04/07/1915 aged 22. Brecknockshire Battalion, South Wales Borderers. Commemorated at Heliopolis Memorial, Aden. Son of Josiah and Ann Williams, of Forge Villa, Llanddew, and later of Slwch Farm.

Evan Frederick Jones, Private 31373. Died 08/10/1918 aged 27. King's Shropshire Light Infantry. Buried at Ramicourt British Cemetery, France. Son of William and Mary Jones, of Pantau, Llanddew. Brother of Albert, below. Was a farmer's son. 

Albert Rees Jones, Private 235576. Died 29/09/1918 aged 23. King's Own Yorkshire Light Infantry. Commemorated at Vis-en-Artois Memorial, France. Son of William and Mary Jones, of Pantau, Llanddew. Was a farmer's son.

John Lewis, Corporal 55470. Killed in action 29/10/1918 aged 26. Royal Welsh Fusiliers. Buried at Engelfontaine British Cemetery, France. Son of John and Anne Lewis, of Gwarcae, Llanddew. Was a wheelwright.