Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu
Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu
Mae’r eglwys hon yng nghanol Aberhonddu. Cafodd ei sefydlu’n wreiddiol yn y ddeuddegfed ganrif yn gapel anwes (sef, safle dibynnol) ar gyfer Priordy Sant Ioan dan ofalaeth mynachod Urdd Sant Bened. Erbyn hyn Eglwys y Priordy, nid nepell o ganol y dre, yw Cadeirlan Aberhonddu.
Ar un adeg, mae’n bosib bod eglwys Geltaidd wedi bod ar safle Eglwys y Santes Fair.
Mae dogfen sy’n perthyn i’r flwyddyn 1200 yn nodi bod cyngor y dref wedi rhoi 12 ceiniog i’r eglwys i gynnau cannwyll gwyr yn ystod yr Offeren er lles enaid noddwr yr eglwys.
Mae rhan helaethaf yr adeilad a welwn heddiw yn perthyn i ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac i ddechrau’r bymthegfed ganrif. Addaswyd rhannau o’r adeiledd gan waith adnewyddu yn ystod oes Fictoria. Y pensaer W D Caroe a greodd nodweddion eraill yn y 1920au gan gynnwys y reredos (sef y sgrîn y tu ôl i’r allor), seddau’r côr a ffenestr y Geni ar ale’r de. Daeth Eglwys y Santes Fair yn eglwys y plwyf yn 1923.
Ar ochr ogleddol corff yr eglwys mae’r unig golofn Normanaidd sydd wedi goroesi. Codwyd y tŵr mawr, ar gost o £2,000, i ddibenion milwrol c.1520 gan Edward Stafford, Dug Buckingham ac Arglwydd Mers Brycheiniog. Saif y tŵr o hyd, heb fawr newid. Mae’r eglwys wedi cadw ei chlychau ‘ting tang’ canoloesol. Y rhain a alwai’r offeiriad i weinyddu’r offeren. Mae clychau ‘ting tang’ yn seinio dau nodyn yn unig, yr uchaf am yn ail â’r isaf.
Mae croes o flodau ym mynedfa’r de i goffáu marchog lleol a fu farw yn y croesgadau. Yn 1188 ymwelodd Archesgob Caergaint a Gerallt Gymro ag Aberhonddu yn ystod eu taith trwy Gymru i recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Yn ei ddyddiadur mae Gerallt yn nodi mai Aberhonddu oedd prif dref a chastell yr ardal.
Mae drws at ddefnydd cŵn ym mynedfa’r de. Caniateid i gŵn ddod i mewn i’r eglwys ond byddai pob ci swnllyd yn cael ei ddal cyn ei hebrwng, gyda chymorth gefel arbennig, trwy ddrws y cŵn er mwyn osgoi agor y drws mawr.
Mae yma hefyd ddwy lechen farmor o 1691 â thestunau crefyddol wedi’u harysgrifennu a’u paentio arnyn nhw. Maen nhw wedi’u llofnodi gan Stanton o Lundain.
Saif Cofeb Rhyfel Aberhonddu ar dir yr eglwys. Mae Café Tŵr yr Eglwys yn dilyn traddodiad Urdd San Bened ac yn croesawu ymwelwyr.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: LD3 7DJ Map
![]() |
![]() ![]() |