Eglwys y Santes Fair, Maesyfed (New Radnor)

Eglwys y Santes Fair, Maesyfed (New Radnor)

Bu tair eglwys o leiaf yn y fangre hon. Roedd y cyntaf ohonynt yn ddigon pwysig i beri mai oddi yma y cychwynnodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint ar eu taith o gwmpas Cymru yn 1188. Dangosir y darlun gan Henry Gastineau o c.1830 yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Drawing of New Radnor church c.1830Mae’r fynwent  ar ochr y bryn, ac olion y castell Normanaidd islaw. Capel ar gyfer trigolion y castell a’r fwrdeisdref newydd oedd yr eglwys gyntaf. Mewn cofnodion eglwysig yn 1291 fe’i nodir yn Ecclia de Radenore Nova.

Codwyd eglwys newydd ar gyfer y plwyf yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan William Bachefield a ‘Flory his wyfe’. Efallai i’r naill eglwys a’r llall gael eu defnyddio am rai canrifoedd a’r hen eglwys yn cael ei hystyried yn gapel y castell.

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 1840au. Prin yw’r olion o’r adeiladau cynnar erbyn hyn. Mae rheiliau’r cymun yn cynnwys darnau o sgrîn ganoloesol. Y tu fewn, mae dwy ddelw ganoloesol y cafwyd hyd iddynt yn y fynwent. Dyna sy’n esbonio’r olwg druenus sydd arnynt.

Ym mis Mawrth 1188 penderfynodd grŵp o arweinwyr eglwysig mai yma y byddai man cychwyn eu taith o gwmpas Cymru er mwyn recriwtio dynion ar gyfer y drydedd groesgad. Roedd Baldwin, Archesgob Caergaint yn eu plith. Ei dywysydd oedd Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro) a chadwodd ef ddyddiadur o’r daith gyfan.

Roedd Ranulph de Glanville, aelod o Gyfrin Gyngor y brenin, yn gwmni iddynt yn ystod rhan gyntaf y daith, o Henffordd i Faesyfed. Ymunodd amryw uchelwyr a Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys) yn eu plith â’r fintai. Ef  oedd yn llywodraethu De Cymru ac roedd wedi cipio castell Maesyfed yn 1196.

Byrdwn pregeth Baldwin oedd ‘cymryd y Groes’ (sef, ymuno â’r groesgad), yna plygodd Gerallt wrth draed yr Archesgob a chymryd arwydd y groes. (Byddai croes wedi’i gwnïo ar ei wisg yn ddiweddarch.) Dilynwyd ef gan Peter de Leia, Esgob Tyddewi, ynghyd â rhai o’r uchelwyr. Trannoeth dathlwyd yr offeren gan y fintai cyn iddynt deithio i gastell Crug Eryr (bryncyn glas ger yr A44 erbyn hyn) ac yna ymlaen i’r Gelli Gandryll.

Diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: LD8 2SS    Map

button_tour_gerald-E rubber_bulletNavigation next button