Brixtarw, ger Lacharn
Dyma lle mae Llwybr Arfordir Cymru yn dirwyn heibio i fferm Brixtarw. Yn 1569 Pricstarrowe oedd ei enw a hwnnw’n dynodi ‘rhes o goed (neu dai) gyferbyn â chlwt o foresg a gâi ei gysylltu’n wreiddiol ag aelod o deulu Pryke’.
Roedd John Pryke a Philip Prycke yn gysylltiedig â maenor gyfagos Pill c.1500. Mae’n ymddangos mai’r ail elfen yn yr enw yw star sy’n ffurf dafodieithol mewn Saesneg Diweddar ac yn dynodi moresg.
Yn 1898 dirwywyd David Jones, ffermwr Brixtarw, am fethu darparu addysg i’w blant. Cafodd ei ddirwyo eto yn 1899 am adael i hwch grwydro ar y briffordd!
Mae’r llwybr heibio i’r tŷ fferm yn rhan o Common Walk Lacharn, cylchdaith o ryw 37km (c.23 milltir) sy’n dal i gael ei cherdded bob tair blynedd. Porthfaer Cyngor Tref Lacharn sy’n arwain y daith hon yng nghwmni cwnstabliaid a rheithgorwyr. Bydd hyd at 300 neu ragor o drigolion yn eu dilyn. Yn y llun, gyda chaniatâd Peter Stopp, gwelir y cerddwyr yn cerdded o gwmpas croes Lacharn cyn cychwyn ar y daith.
Mae hwn yn draddodiad sydd wedi parhau am 700 mlynedd ac yn seiliedig ar yr arfer o “Gerdded y Ffiniau” sef cadarnhau ffiniau arglwyddiaeth Lacharn a dysgu enwau’r lleoliadau pwysig ar hyd y daith. Un o’r lleoliadau hyn yw ffynnon a chae o’r enw Blinds Well ychydig uwchlaw ffermdy Brixtarw. Gall yr enw ddynodi ffynnon oedd wedi ei chuddio neu ffynnon lle roedd deillion yn dod gan obeithio am adferiad,
Yr enw a roir ar y lleoliadau hyn yw ‘hoisting places’. Daw’r enw o’r traddodiad sy’n dal mewn grym o ddewis un o’r dorf (menyw ifanc yn aml!) ac oni all enwi’r lle, rhaid iddi blygu dros bolyn halberd y cwnstabl a derbyn ergyd ysgafn ar ei phen-ôl wrth iddi adrodd yr enw!
Yn 1891 roedd y traddodiad o godi’r person anffodus wyneb i waered yn dal mewn grym. Y flwyddyn honno roedd seindorf drwm a phibau’r dre yn arwain y cerddwyr ac yng Nghwm Brixtarw darparwyd diod sinsir, cwrw a chacennau ar eu cyfer.
Islaw Brixtarw y mae hen groesfan fferi ac olion tŷ cwch a bwthyn y cychwr. Mor ddiweddar â 1910 roedd cwch yn gadael y fan am 9am bob dydd pan oedd arwerthiant da byw yn Trefenty (ar lan bellaf afon Taf). Byddai’r ‘cychwr’ a’i deithwyr yn dychwelyd bob dydd pan ddoi’r arwerthiant i ben.
O’r golwg yn y coed ar yr ochr bellaf mae olion dwy eglwys hynafol, ar y naill ochr a’r llall i afon Cywyn. Yn yr oesoedd canol byddai eglwysi yn cael eu hadeiladu ger glanfeydd er mwyn i bobl allu gweddïo am siwrnai ddiogel ar y cwch. Roedd y fferi hwn o bwys mawr i bererinion a oedd yn teithio o Gasgwent i Dyddewi. Ystyrid bod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Rufain.
Mae’r ardal hon ar lan afon Taf yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn gyfor o adar yr aberoedd ac adar y môr, ynghyd â glas y dorlan, dyfrgwn ac ambell forlo. Pan fydd y llanw yn uchel iawn ar adegau penodol o’r flwyddyn, ceir llanwdon bychan a achosir gan ruthr y llanw ym man culaf yr aber lle yr arferai’r fferi groesi.
Diolch i Peter Stopp o Hanes Cymunedol Lacharn, ac i Dr Richard Morgan a'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne
Cod post: SA33 4QP Map