Cartref bore oes y pregethwr Thomas Charles, Pant-dwfn, Sanclêr
Tyfodd Thomas a David Charles, o fferm Pant-dwfn, yn arweinwyr crefyddol o gryn bwys. Roedd Thomas yn adnabyddus i bawb yng Nghymru am genedlaethau, yn sgil ei ymwneud â Mary Jones (gw. isod) . Mae adfeilion y tŷ fferm lle y magwyd Thomas ( 1755-1814) a David (1762-1834) gan eu rhieni, Rees a Jael Charles, mewn pant ger y tŷ fferm presennol
Ac yntau wedi mynychu ysgol Llanddowror, ysbrydolwyd Thomas (y llun uchaf) gan Griffith Jones, y cyn-reithor (eisoes wedi ei gladdu) a chan Rees Hugh, yntau wedi’i ysbrydoli gan ymagwedd Griffith Jones at grefydd. Yn 1769 dechreuodd Thomas fynychu’r Academy yng Nghaerfyrddin – sefydliad Methodistaidd blaengar ond yn derbyn pob Cristion. Yr arweinydd oedd Dr Jenkin Jenkins (a oedd hefyd yn weinidog capel Heol Dŵr, a sefydlwyd gan Peter Williams). Profiad bythgofiadwy, yn ôl Thomas, oedd y diwrnod y clywodd Daniel Rowland yn pregethu.
Ordeiniwyd Thomas yn 1778 ond collai bob swydd fel curad am ei fod yn arddel syniadau Methodistaidd. Wedi iddo briodi cafodd gartref sefydlog yn y Bala. Dysgodd mewn ysgolion yno a bu’n bregethwr teithiol, gan ddenu cynulleidfa o 2,000 o bobl. Yn sgil ei waith yn sefydlu ysgolion cylchynol ac Ysgolion Sul, llwyddodd i wella llythrennedd ei ddisgyblion.
Yn 1800 cerddodd Mary Jones, merch ifanc o Lanfihangel-y-Pennant, 42km (26 milltir) i’r Bala er mwyn prynu Beibl gan Thomas Charles â’i chynilion. Adroddwyd ei hanes canmoladwy i genedlaethau lawer.
Ysgrifennodd Thomas nifer o destunau safonol, gan gynnwys y Geiriadur Beiblaidd dylanwadol. Cyhoeddwyd dros 80 argraffiad o’i addasiad ef o Gatecism Griffith Jones.
Yn y cyfamser aethai ffermio Pant-dwfn yn drech na’i dad, Rees Charles, a symudodd hwnnw i ffermydd llai. Nid oedd modd yn caniatáu i David ddilyn llwybr addysgol cyffelyb i’w frawd, Thomas. Aeth David (llun gwaelod) yn wneuthurwr rhaffau gan sefydlu ffatri lwyddiannus yng Nghaerfyrddin. Roedd yn flaenor yng nghapel Heol Dŵr, bu’n aelod dylanwadol o Sasiwn Methodistiaid De Cymru a chyfansoddodd amryw emynau poblogaidd.
Roedd y ddau frawd yn dal i gysylltu â’i gilydd ac yn 1811 gwahanodd Cymdeithasau Methodistaidd y de a’r gogledd oddi wrth yr Eglwys Wladol gan gytuno i ordeinio eu gweinidogion eu hunain. Cafodd David ei hun ei ordeinio. O hynny ymlaen, tyfodd niferoedd y capeli a’r cynulleidfaoedd Methodistaidd ar garlam. Erbyn 1851 roedd 79% o boblogaeth Cymru yn anghydffurfwyr.
Diolch i Peter Stopp, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA33 4NF Gweld map y lleoliad
Troednodiadau: Yr enw lle Sanclêr
Ystyr yr enw yw ‘(eglwys wedi’i chysegru i) St Clair neu Cleer’. Mae’r cyfeiriad cynharaf at y lle yn digwydd yn y ddeuddegfed ganrif neu ychydig yn ddiweddarch na hynny. Mae Clair neu Cleer wedi ei chysylltu â sant o’r nawfed ganrif a goffeir yn ogystal yn St Cleer yng Nghernyw. Prif ganolfan y cwlt, sut bynnag, oedd St-Clair yn Normandie. Ceir rhagor o wybodaeth yn: Richard Morgan, Place-Names of Carmarthenshire, (Caerdydd 2022); Oliver J Padel, A Popular Dictionary of Cornish Place-name Elements, (Penzance 1988).