Cyn-gartref y Parch. Thomas Charles, y Bala

Ar un adeg, dyma lle roedd cartref Thomas Charles (1755-1814), un o’r cymeriadau a oedd yn bennaf gyfrifol am dwf Methodistiaeth yng Nghymru. Mae’r coflechi ar wal flaen y tŷ yn cofnodi, yn ogystal, yr hanes enwog am Mary Jones a gerddodd yma i brynu Beibl gan Thomas Charles (gw. isod). Mae’r darlun o oes Fictoria yn dangos blaen y tŷ cyn i’r adeilad gael ei weddnewid.

Victorian drawing of Thomas Charles' home in BalaMagwyd Thomas ar fferm Pant-dwfn, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin. O fore oes edmygai Griffith Jones, yr arloeswr o addysgwr a’r pregethwr, wedi iddo glywed amdano gan gymydog.

Wedi iddo gael ei ordeinio yn 1778, bu Thomas yn gurad mewn amryw leoedd tan iddo gwrdd â Sally Jones, merch i siopwr, pan oedd ef yn ymweld â Simon Lloyd, Methodyn amlwg yn y Bala. Wedi iddo briodi â Sally, ymgartrefodd Thomas yn y Bala oherwydd doedd y wraid newydd ddim yn awyddus i symud o’r dref nac ychwaith i ymadael â’r busnes teuluol. Gyda chefnogaeth ariannol o du ei wraig, roedd cyfle i Thomas weithio’n annibynnol. Bu’n dysgu mewn ysgolion ac ymunodd â Chymdeithas Methodistiaid y Bala. Denai ei bregethu dorfeydd o 2,000 o bobl.

Portrait of Thomas Charles of BalaYsbrydolwyd Thomas gan fudiad yr Ysgolion Cylchynol a oedd erbyn hyn wedi lledu o’u man cychwyn yn Sir Gaerfyrddin. Aeth ati i sefydlu ysgolion tebyg yng ngogledd Cymru, gyda rhai dosbarthiadau yn y Capel Tegid gwreiddiol. Yma, yn ei gartref ei hun, bu’n hyfforddi athrawon ac yn darparu llyfrau ar eu cyfer. Derbyniai’r athrawon gyflog o £10 y flwyddyn. Byddai ysgol ar gael ym mhob cymuned am gyfnod o rwng chwe neu naw mis gan ddysgu darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Yn y pen draw, aeth ariannu’r ysgolion yn fwgan, ond erbyn hynny roedd Ysgolion Sul yn ffynnu ac yn fwy effeithiol ac yn rhatach o ran dysgu plant i ddarllen. Thomas fyddai’n darparu’r adnoddau dysgu fel cynt. Roedd poblogrwydd yr Ysgolion Sul yn fodd i hybu Methodistiaeth trwy Gymru benbaladr.

Victorian drawing of Mary JonesYn 1800 cerddodd Mary Jones (a welir yma trwy lygaid artist o oes Fictoria) yn droednoeth o’i chartref yn Llanfihangel-y-Pennant, ger Abergynolwyn, i gartref Thomas Charles yn y Bala i brynu Beibl ganddo. Bu hi wrthi’n cynilo arian am flynyddoedd lawer ar gyfer hyn. Wynebai daith o 42km (26 milltir) ond bu ei phenderfyniad i fynnu Beibl yn ysbrydoliaeth wiw i genedlaethau. Ei hymdrech hi a sbardunodd sefydlu Cymdeithas y Beiblau sy’n ymroi i ddarparu Beiblau i bawb.

Yma yn hen gartref Thomas Charles bu cangen o fanc Barclays am ddegawdau. Pan gaeodd y banc yn 2017 daeth yn swyddfa yn y Bala i AgriAdvisor, cwmni o gyfreithwyr a chynghorwyr sy’n arbenigo ar bynciau gwledig.

Diolch i Peter Stopp, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad. Ffynonellau yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cod post: LL23 7AD    Gweld map y lleoliad

Gwefan AgriAdvisor