Olion Castell Llansteffan

laugharne_coygan_handaxes
JMW Turner, Castell Llansteffan yng Ngolau'r Lleuad, c.1795, Tate (D00689), delwedd
ddigidol © Tate wedi'i rhyddhau o dan Creative Commons CC-BY-NC-ND (3.0 Unported)

Yn y fan hon mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd o amgylch y penrhyn lle y saif Castell Llansteffan. Tro byr yn unig i fyny’r allt mae’r castell ac mae hwnnnw ar agor i’r cyhoedd bron bob dydd o’r flwyddyn. 

Gwaith gan JMW Turner yw’r dyfrllun o’r castell dan y lloer. Mae’n dangos odyn a dynion wrth eu gwaith ynghyd â chriw arall yn y blaendir yn dadlwytho cwch hwylio. Perthyn i’r 1890au y mae’r llun isod. 

Mae’r castell yn un o’r ychydig yng Nghymru sydd wedi ei godi ar safle caer cynhanesyddol. Adeiladwyd amddiffynfa yma c. 600 CC, er mwyn rheoli, mae’n debyg, y groesfan ar draws afon Tywi. Ffurfia’r llethr serth tua’r dwyrain amddiffynfa naturiol. Mae’n debygol mai cloddiau pridd a ffosydd fyddai’n amddiffyn gweddill y safle.

Dinistriwyd llawer o wrthgloddiau’r Oes Haearn wrth godi’r castell canoloesol ond mae rhai olion wedi goroesi ar yr ochr orllewinol. 

Credir mai c.1112, rai degawdau’n unig wedi’r goncwest Normanaidd, y dechreuwyd adeiladu’r castell. Bu’r castell ym meddiant aelodau teulu grymus Camville am dros 200 o flynyddoedd, ac eithrio’r adegau hynny pan lwyddai llywodraethwyr Cymreig – gan gynnwys yr Arglwydd Rhys a Llywelyn Fawr - ei gipio.

llansteffan_castle

Mae’r gatws, ynghyd â’r olion mwyaf sylweddol sydd i’w gweld erbyn hyn, yn perthyn i’r drydedd ganrif ar ddeg, pan atgyfnerthwyd y castell gan deulu Camville. 

Yn gynnar yn y bymthegfed ganrif cafodd y castell ei gipio gan y Cymry drachefn, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno daeth yn eiddo i’r wladwriaeth dan Harri VII a aned ym Mhenfro. Mae rhai o’r nodweddion addurnol sydd wedi goroesi yn perthyn i gyfnod pan oedd y castell yn gartref yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Mae Cadw yn gofalu am y castell nawr.

Yr enw lle:

Llansteffan, sef eglwys Steffan gyda llan ‘eglwys’ a’r enw personol Steffan. Rhaid ystyried mai sant brodorol a hanai o Bowys, ac yn ôl traddodiad cyfaill i Teilo, yw’r cysegriad yn hytrach na’r merthyr beiblaidd.

Gyda diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Map

Gwybodaeth i ymwelwyr – gwefan Cadw

Mwy o wybodaeth am ddarlun Turner o'r castell – gwefan y Tate Gallery

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button